blog

Sut mae gwneud gwahaniaeth? Dewch yn ofalwr maeth

I’r mwyafrif, mae diwedd blwyddyn yn amser da i fwrw golwg yn ôl a gwneud cynlluniau newydd ar gyfer y flwyddyn i ddod.

Mae’r flwyddyn newydd yn ein cymell i weithredu, i wella ein hunain, a dod o hyd i ddiben newydd. Ond does dim angen i chi ddisgwyl tan y flwyddyn newydd i wneud gwahaniaeth. Efallai i chi ymddeol yn ddiweddar, neu i’ch plant adael cartref a gwneud i’ch tŷ deimlo’n wag braidd.  Efallai i’ch amgylchiadau gwaith newid yn ddiweddar, a bellach mae gennych fwy o amser rhydd neu amserlen fwy hyblyg. 

Fe allech fod yn gofyn i chi’ch hun, ‘sut allaf wneud gwahaniaeth yn fy nghymuned?’, ‘sut allaf fod yn well person?’ neu ‘beth sydd gen i i’w gynnig i helpu eraill?’ 

Yn arbennig yn y cyfnod anodd hwn, pan fo’r byd yn ymrafael gyda’r argyfwng economaidd a chanlyniadau’r rhyfel yn Wcráin, mae’r rhan fwyaf ohonom ni’n teimlo’r angen i weithredu a gwneud rhywbeth er lles eraill.

Gall dod yn ofalwr maeth i blant a phobl ifanc lleol bregus fod yn un o’r ffyrdd y gallwch chi wneud gwahaniaeth gwirioneddol. Mae hanes pob plentyn sydd wedi canfod diogelwch, cynhesrwydd a chariad yng nghartrefi gofalwyr maeth yn hanes o lwyddiant, a gallwch chi fod yn rhan ohono.


Beth mae gofalwyr maeth yn ei wneud?

Mae nifer fawr o resymau pam na all plant fyw gyda’u teuluoedd; fel arfer, mae hynny oherwydd problemau sy’n effeithio eu rhieni, fel salwch, trafferthion perthynas neu gamddefnydd sylweddau, neu am fod plant wedi eu hesgeuluso neu eu camdrin. 

Gall gofalwyr maeth roi lle diogel, dechrau newydd, a theulu cariadus i blant heb ddileu’r gorffennol. Pan ddewch yn ofalwr maeth gyda’ch Awdurdod Lleol, rydych yn helpu i gynnal (pan fo hynny’n ddiogel) y cysylltiadau sydd gan blant maeth â’u teuluoedd  geni. Pan fo plant yn cael eu maethu’n lleol, gallant barhau cysylltiadau gyda ffrindiau, lleoedd cyfarwydd â phopeth sydd o bwys iddynt. 

Ein blaenoriaeth, fel gwasanaeth maethu Awdurdod Lleol, yw cadw plant yn eu cymuned leol os mai dyna’r peth iawn iddynt. Fel gofalwr maeth lleol, mae gennych dasg bwysig: gwneud yn siŵr bod y plentyn yn teimlo’n ddiogel, bod cefnogaeth ganddynt, a’u bod yn hapus. Ein rôl ni yw eich cefnogi chi ym mhob ffordd a allwn.

“Wnes i ddim dod yn ofalwr maeth am eich bod yn cael eich talu i edrych ar ôl plentyn. Fe wnes i ddod yn ofalwr maeth er mwyn gwneud gwahaniaeth i’r plentyn hwnnw, boed am wythnos, bythefnos, misoedd neu flynyddoedd, a chael rhyw fath o argraff ar eu bywyd.” 

Stacey, gofalwr maeth lleol

Wrth wraidd maethu mae ymrwymiad i wneud gwahaniaeth i fywyd plentyn. Ambell waith, gall eich cartref fod yn lloches i blentyn sydd angen gwely am noson mewn argyfwng; droeon eraill, gall fod yn hafan ddiogel am gyfnod mwy – am fis, blwyddyn neu sawl blwyddyn. Fel gofalwr maeth, rydych yn derbyn plentyn fel rhan o’ch teulu gan, o bosib, newid cwrs eu bywyd. 

Mae maethu yn ymrwymiad i fod yna i blant, i wrando arnynt ac i fod yn ddibynadwy. Bydd eich tasgau fel gofalwr maeth yn amrywio yn ôl oedran y plentyn byddwch yn maethu. Bydd angen mynd â phlant iau i’r ysgol a mynd i’w nôl; byddwch angen trefnu amser gyda’r teulu a diddanu, helpu gyda phob dim sydd ei angen ar blentyn pan fo’n ifanc, eu meithrin a’u dysgu.

Bydd plant hŷn a phlant yn eu harddegau angen eich doethineb, eich arweiniad a’ch cefnogaeth. Byddwch yn helpu i’w paratoi ar gyfer bywyd oedolyn, a gall hyn gynnwys eu cynghori ar lwybr addysgol; sut i reoli arian a biliau, sut i goginio a golchi dillad, sut i ymdopi efo’i hemosiynau, a mwy. Waeth beth yw eu hoedran, eich rôl chi fydd credu ynddynt, a bod yn gefn iddynt.

“Gall yr effaith a gewch ar fywyd plentyn fod yn anferth. Os oes gennych empathi, a gallwch gynnig diogelwch a man y gall plentyn ffynnu ynddo, dylech roi cynnig arni.”

Hope, person ifanc gyda phrofiad o fod mewn gofal

A yw maethu’r un peth â mabwysiadu? 

Gofynnir y cwestiwn hwn i ni’n aml. Mae gofal maeth a mabwysiadu’n rhannu nifer o werthoedd cyffredin, fel caredigrwydd, tosturi, a sefydlogrwydd, ond maent yn sylfaenol wahanol.

Hafan ddiogel pan fo’i hangen fwyaf yw maethu. Rydych yn dod yn ofalwr am blentyn am y byrdymor neu’r hirdymor. Nid ydych yn gyfrifol yn gyfreithlon am y plentyn hwnnw, ac nid ydych yn disodli eu rhieni gwaed mewn ystyr cyfreithiol. Mae plant sy’n derbyn gofal yn parhau i fod yn gyfrifoldeb cyfreithiol yr Awdurdod Lleol. Fel gofalwr maeth, rydych yn gweithio gyda ni i greu amgylchedd diogel a chariadus ar gyfer y plentyn, naill ai tan iddynt fedru dychwelyd i fyw at eu rhieni, at aelodau eraill o’r teulu, cael eu mabwysiadu neu eu maethu am weddill eu plentyndod.  

Pan fyddwch yn mabwysiadu plentyn, fe fyddwch chi’n rhiant cyfreithiol i’r plentyn hwnnw. Bydd gennych gyfrifoldeb cyfreithiol amdanynt; byddant yn cymryd eich enw chi a byddant yn rhan gyfreithiol o’ch teulu chi. 

Pwysigrwydd amrywiaeth ym myd maethu

Nid penderfyniad i’w wneud dros nos yw dod yn rhiant maeth, ond ceir hefyd sawl myth a chamddealltwriaeth ynghylch gofal maeth sydd yn helpu dim i wneud y penderfyniad hwn yn haws.

Un gred gyffredin yw bod rhaid i chi fod yn briod, yn berchen tŷ mawr, yn weddol ifanc, a bod â phrofiad blaenorol o fagu plant. 

Y gwir yw fod arnom angen amrywiaeth ym maes gofal maeth. Mae gennym nifer o blant yn ein gofal sy’n dod o wahanol gefndiroedd ethnig, hil a chrefydd; plant gydag anableddau, babanod a phlant yn eu harddegau, a phlant sydd angen gofal arbenigol. Flwyddyn ar ôl blwyddyn, rydym yn ei chael hi’n anodd i ddod o hyd i rieni maeth sy’n gweddu i’w anghenion. 

Felly, os ydych wedi meddwl erioed na allech fod yn riant maeth oherwydd eich bod, er enghraifft, o gefndir diwylliannol gwahanol, neu’n uniaethu’n LHDTC+, rydym eisiau chwalu’r mythau a’ch annog i ystyried maethu. Isod, gallwch gael hyd i atebion i rai o’r cwestiynau cyffredin hynny.  

Ydw i’n rhy hen i faethu?

P’un a ydych yn eich 40au, 50au neu hyd yn oed eich 60au, gallwch ddod yn ofalwr maeth os ydych yn ffit ac yn ddigon iach i fwynhau’r gweithgareddau hynny y mae plant eu hangen i ddatblygu a phrifio. Os ydych yn egnïol ac yn hoffi cadw’n brysur, bydd plant iau yn darparu digon o weithgaredd ar eich cyfer, ond os na allwch chwarae pêl neu redeg ar ôl plentyn bach, gallwch gynnig cartref i blentyn hŷn neu blentyn yn ei arddegau. Mae rhan o’r broses asesu’n cynnwys gwiriadau iechyd, a fydd yn ein helpu ni i bennu pa fath o faethu byddai’n gweddu orau i chi. Mae gwahanol fathau o faethu, ac fe allwn eich cynghori ar y math fyddai’n gweddu orau i’ch ffordd chi o fyw. Bydd ein staff cyfeillgar wastad wrth law i’ch cefnogi, a’ch cyfarparu ar gyfer unrhyw beth y dewch ar ei draws.

Waeth beth yw eich oedran, gallwch wastad gynnig rhywbeth gwerthfawr; efallai mai eich profiad o fagu eich plant eich hun yw hynny, y doethineb sydd gennych yn sgil eich profiadau bywyd, neu’n syml ddigon, eich aeddfedrwydd a’ch gwybodaeth. 

Rwy’n sengl; a gaf i faethu? 

Mae myth poblogaidd bod angen i chi fod yn briod neu mewn perthynas i faethu. Oes, mae’n rhaid i chi fedru cynnig sefydlogrwydd a chartref diogel, ond nid oes unrhyw ofynion arbennig o ran perthynas. Gallwch fod yn sengl, yn gwpl, yn briod neu mewn partneriaeth sifil. 

Os ydych am faethu fel person sengl, mae’n hanfodol i chi fod â chefnogaeth emosiynol ac ymarferol digonol. Mae aelod o’r teulu a all fod ar gael (hyd yn oed yn darparu cefnogaeth emosiynol) neu ffrind sy’n medru cynnig help o dro i dro yn amhrisiadwy.

Mae gennyf swydd lawn-amser; oes rhaid i mi roi’r gorau iddi er mwyn maethu?

Nid oes rhaid i’r ffaith eich bod yn gweithio eich atal rhag dod yn ofalwr maeth. Mater yw o ddewis y math o faethu sy’n iawn i’ch amgylchiadau chi a gwneud yn siŵr y gall eich rhwydwaith chi fod yno i’ch cefnogi. 

Mae gennym ofalwyr maeth sy’n sengl ac yn berchen ar fusnes, felly mae eu hamserlen yn hyblyg iawn; mae gennym hefyd ofalwyr maeth sy’n gweithio’n llawn amser, ac mae eu swyddi’n ddigon hyblyg i gynnig cefnogaeth i bobl ifanc yn eu harddegau (er enghraifft, llety â chymorth).  Nid oes unrhyw sefyllfaoedd nodweddiadol. Mae eich teulu chi a’ch ffordd o fyw’n unigryw, ac fe allwn eich arwain a’ch cynghori chi am y math o faethu fyddai’n gweddu i’ch sefyllfa. Os ydych am weithio a maethu, fe allech ddechrau trwy gynnig maethu seibiant byr  (a elwir hefyd yn ofal seibiant) ac ennill profiad yn araf a allai ddatblygu yn y pen draw at faethu’n llawn amser. Darllenwch fwy yn ein canllaw ‘A allaf weithio a bod yn ofalwr maeth’.

Nid oes gennyf blant, a allaf ddod yn ofalwr maeth?  

Nid oes rhaid i chi fod â phlant eich hun i faethu. Os oes gennych unrhyw brofiad perthnasol gyda phlant, er enghraifft, gweithio fel athro/athrawes neu warchod plant, gall hyn fod yn ddefnyddiol. Fodd bynnag, nid ydym yn disgwyl i chi fod â gwybodaeth helaeth, cymwysterau penodol, na phrofiad o fagu eich plant eich hun er mwyn maethu. 

Eich dymuniad i gynnig cartref cefnogol, diogel a chariadus yw’r hyn sy’n bwysig mewn gwirionedd. Pan fyddwch yn ofalwr maeth gyda’ch Awdurdod Lleol, byddwn yn dod yn rhwydwaith cefnogaeth leol, a darparu cyfleoedd dysgu a datblygu helaeth i chi. Gallwch hefyd ddysgu am faethu a datblygiad plant o lyfrau neu ffilmiau sy’n cael eu hargymell gan ein gofalwyr maeth a gweithwyr gofal cymdeithasol proffesiynol.

Os oes ragor o gwestiynau gennych, ewch i’n tudalen  Cwestiynau Cyffredin .


Y gefnogaeth a gewch pan ddewch yn ofalwr maeth

Mae angen dull tîm i faethu. Tu hwnt i deulu, byddwn yn helpu i ddarparu uned gefnogaeth o weithwyr cymdeithasol, therapyddion ac athrawon felly byddwch yn cael arweiniad ar bob cam o’ch taith.

Os ydych yn byw ym Mlaenau Gwent, rydym yn cynnig llawer o help, fel mynediad i’n gwasanaeth therapiwtig mewnol, ac aelodaeth o’r grŵp cymdeithas gofalwyr maeth. Byddwn hefyd yn talu am aelodaeth i chi o  The Fostering Network (TFN) a lwfansau ariannol hael. Er enghraifft, fe allech gael isafswm o £543 yr wythnos os ydych yn maethu dau berson ifanc 13 ac 16 oed gyda Maethu Cymru Blaenau Gwent. Mae pob Awdurdod Lleol yn cynnig tâl a chefnogaeth mewn ffyrdd ychydig yn wahanol i’w gilydd, felly mae’n werth holi eich tîm Maethu Cymru lleol.  

Ar wahân i hynny, mae ein cymuned maethu yn barod i’ch croesawu a chynnig cymorth drwy gyfarfodydd, digwyddiadau a grwpiau cyfryngau cymdeithasol ar-lein. Maent yn hapus i rannu o’u profiad a rhoi arweiniad i chi ar eich taith maethu. Mae rhai o’n gofalwyr maeth hefyd yn mentora ac yn cynnig cefnogaeth gan gymheiriaid ar sail unigol.

“Rwy’n hoff o’m Awdurdod Lleol, maen nhw wedi bod yn dda efo fi. Fe fuon nhw’n wych gyda cefnogaeth, rydych yn dod i ‘nabod pawb; y gweithwyr cymdeithasol ac maen nhw’n agos ataf os oes unrhyw broblem.”  

Shirley, gofalwr maeth lleol.

Pa mor hir mae’n ei gymryd i ddod yn ofalwr maeth?

Nawr, gan wybod ychydig mwy am sut beth yw dod yn ofalwr maeth, mwy na thebyg rydych yn meddwl tybed pa mor hir mae’r broses yn ei gymryd. 

Y nod yw tua 4-6 mis i ddod yn ofalwr maeth, ac yn ystod yr amser hwn, rydym yn gwneud ein gorau i sicrhau’r canlyniad gorau posib i chi fel gofalwr maeth newydd ynghyd â’r plant sydd yn ein gofal. 

Gallwch weld sut mae’r broses yn gweithio yn y diagram isod:

Pam ei bod hi’n cymryd cyhyd i ddod yn ofalwr maeth?

Mae maethu yn llawer iawn mwy na dod o hyd i wely diogel a tho dros bennau plant. Rydym angen ei wneud yn iawn; mae plant yn haeddu ein gwaith gorau, ac nid ei wneud ar ruthr. Rydym yn cymryd ein hamser i gwrdd a dod i’ch adnabod chi a’ch teulu, eich ffordd o fyw a chredoau; ein nod yw sefydlu perthynas wnaiff bara efo chi a’ch teulu. 

Yn ystod y broses, rydym yn rhoi’r holl wybodaeth fydd ei hangen arnoch i chi; p’un ai ydych yn gwybod llawer am faethu neu beidio, rydym yn chwalu mythau a dweud y gwir wrthych am sut beth yw bod yn ofalwr maeth. Rydym eisiau dod i ddeall eich cymhellion; a ydych yn benderfynol o dderbyn heriau a’r adegoedd anodd a allai ddigwydd drwy fod yn ofalwr maeth? A ydych chi’n fodlon aberthu amser, ac ymrwymo eich hun i ateb anghenion plant? 

Darllenwch ein blog ‘Pam (er mwyn gwneud pethau’n iawn) mae’n cymryd 6 mis i ddod yn ofalwr maeth? os ydych am ddysgu mwy.


Ydych chi’n credu y gallech wneud gwahaniaeth a dod yn ofalwr maeth? 

Pam na wnewch chi gysylltu gyda thîm maethu eich awdurdod lleol heddiw? Cewch fwy o wybodaeth ganddynt a gwnant helpu i’ch arwain chi drwy’r broses.

Os ydych yn byw yng Nghymru, ewch i wefan  Maethu Cymru  lle gallwch ddod o hyd i’r holl wybodaeth a chysylltu efo gwasanaeth eich awdurdod lleol.

Byw ym Mlaenau Gwent, Cymru? Anfonwch neges atom, ac fe wnawn ni ymateb cyn gynted ag y gallwn.

Mae dewis Maethu Cymru, gwasanaeth maethu eich Awdurdod Lleol, yn benderfyniad i weithio efo pobl go iawn yn eich cymuned, gyda gofal plant ac nid gwneud elw yw’r peth pwysicaf iddynt.

Story Time

Stories From Our Carers

Woman and young girl using computer to make video call

cysylltwch â ni heddiw

cysylltwch