pam maethu gyda ni?

cefnogaeth a manteision

cyllid a lwfansau

Fel gofalwr maeth gyda thîm Maethu Cymru Blaenau Gwent, byddwch yn cael lwfansau ariannol cystadleuol. Mae’r rhain yn seiliedig ar nifer o ffactorau gan gynnwys faint o blant rydych chi’n eu maethu, y math o ofal maeth rydych chi’n ei roi ac am ba hyd.

Er enghraifft, os byddwch yn maethu dau berson ifanc 13 ac 16 oed gyda Blaenau Gwent, byddwch yn cael o leiaf £543 yr wythnos.

manteision eraill

Ar wahân i’r manteision ariannol, mae llawer o fân fanteision eraill i fod yn ofalwr maeth – mwy nag y byddech chi’n ei feddwl efallai. Fel gofalwr maeth ym Mlaenau Gwent, bydd gennych hawl i’r canlynol:

  • Llawer iawn o gefnogaeth benodol i chi, a gweithiwr cymdeithasol unigol ar gyfer pob plentyn
  • Mynediad uniongyrchol i gymorth seicolegol arbenigol
  • Arweiniad, cefnogaeth a hyfforddiant gan Fy Nhîm Cymorth (Mhyst)
  • Cefnogaeth arbennig i blant sy’n profi unrhyw anawsterau mewn addysg
  • Mentora gan ofalwyr maeth eraill, a grŵp cymdeithas gofalwyr maeth lleol
  • Amrywiaeth o adnoddau dysgu gan gynnwys e-ddysgu, podlediadau, deunyddiau darllen a gweithdai
  • Cerdyn MAX – mynediad am ddim ac am bris gostyngol i atyniadau yn y DU

ymrwymiad cenedlaethol maethu cymru

Yn ogystal â’r manteision a’r gostyngiadau gwych hyn, byddwch hefyd yn elwa o’n hymrwymiad cenedlaethol. Mae hwn yn gytundeb y mae pob un o dimau Maethu Cymru wedi ymrwymo iddo, sy’n cynnwys manteision, hyfforddiant a chefnogaeth barhaus i bob gofalwr maeth ym Mlaenau Gwent.

Felly, fel pob gofalwr maeth arall gyda Maethu Cymru, byddwch yn elwa o’r canlynol:

Happy senior man smiling with young boy on shoulders

un tîm

Bydd eich tîm Maethu Cymru ym Mlaenau Gwent yn gweithio gyda chi a phob plentyn yn eich gofal ac unrhyw weithiwr proffesiynol arall sy’n gysylltiedig, fel rhan o un gwasanaeth cysylltiedig. Mae hyn oherwydd ein bod ni i gyd yn rhan o’r Awdurdod Lleol a’n pwrpas ni yw gwneud y gorau dros blant lleol. Rydyn ni’n un tîm mawr, cysylltiedig.

Byddwch chi’n dod yn rhan hanfodol o’r tîm hwn, sy’n golygu y byddwch chi bob amser yn cael eich cynnwys, eich gwerthfawrogi a’ch parchu. Rydyn ni bob amser yn gweithio gyda’n gilydd ac yn canolbwyntio ar y cysylltiadau a fydd yn sicrhau’r canlyniadau gorau posibl i’r plant rydyn ni’n gofalu amdanyn nhw, a chi – eu teulu maeth.

Elderly people with two boys

dysgu a datblygu

Mae dysgu a thyfu yn rhan hanfodol o’r hyn rydyn ni’n ei gynnig a byddwn yn parhau i’ch helpu chi a’ch plentyn maeth i ddatblygu.

Bydd ein tîm yn Maethu Cymru Blaenau Gwent, yn rhoi cofnod dysgu personol a chynllun datblygu unigol i chi, i’ch helpu i gadw golwg ar eich taith a dysgu sgiliau gwerthfawr y gellir eu trosglwyddo. Byddwch hefyd yn cael gwybodaeth ragorol ar gyfer eich datblygiad personol eich hun.

A young man and a child in the garden

cefnogaeth

Ar ôl i chi gael eich paru â phlentyn neu oedolyn ifanc, bydd ein tîm clòs wrth law i’ch cefnogi a’ch annog chi’ch dau. Fyddwch chi byth ar eich pen eich hun oherwydd byddwn yn eich rhoi mewn cysylltiad â gweithiwr cymdeithasol profiadol a fydd yn eich cefnogi a’ch cynghori.

Bydd gennych chi hefyd fynediad at amrywiaeth o grwpiau cefnogi lleol, lle byddwch chi’n cwrdd â gofalwyr maeth eraill a gweithwyr gofal proffesiynol. Mae hwn yn gyfle gwych i rannu profiadau, siarad a gwrando ar ein gilydd

Rydyn ni hefyd yn cynnig cymorth proffesiynol pryd bynnag y bydd ei angen arnoch, hyd yn oed y tu allan i oriau swyddfa arferol. Rydyn ni wedi ymrwymo i weithio fel tîm bob amser, sy’n golygu y byddwn ni wrth law pryd bynnag y bydd ein hangen arnoch chi.

O grwpiau cefnogi arbenigol i ofalwyr maeth arbenigol, i gyfarfodydd sy’n benodol i ddynion, byddwch yn dod o hyd i gymunedau newydd o ofalwyr maeth fel chi, sy’n awyddus i wneud gwahaniaeth.

Family

y gymuned faethu

Mae gennyn ni gymuned anhygoel o ofalwyr maeth sydd â chysylltiadau da ac sydd bob amser yn hapus i rannu eu profiadau a’u doethineb eu hunain. 

Byddwch hefyd yn gallu cael gafael ar beth wmbredd o wybodaeth a chyngor ar-lein, felly dim ond un clic neu alwad i ffwrdd fyddwch chi bob amser.

Pan fyddwch chi’n ymuno â Maethu Cymru, byddwn ni hefyd yn talu i chi fod yn aelod o’r Rhwydwaith Maethu (TFN) a Chymdeithas Maethu a Mabwysiadu (AFA) Cymru. Mae’r sefydliadau maethu arbenigol hyn yn cynnig cefnogaeth annibynnol, cyngor preifat, arweiniad a llu o fanteision ychwanegol. 

llunio’r dyfodol

Rydyn ni’n cydnabod bod y daith a arweiniodd unrhyw blentyn, ac unrhyw ofalwr maeth, i’r pwynt hwn yn bwysig – ond y cam mwyaf arwyddocaol yw’r un nesaf. Rydyn ni’n mynd ati i ganolbwyntio ar y presennol a’r dyfodol gwell, yn hytrach na’r gorffennol. Bydd dod yn ofalwr maeth yn golygu eich bod yn rhan o sut gallwn ni siapio’r dyfodol hwn.

Bydd ymuno â’n tîm hefyd yn golygu bod eich llais a’ch barn yn cael eu clywed ar lefel leol a rhanbarthol yn ogystal ag ar lefel genedlaethol.

Woman and young girl using computer to make video call

cymryd y cam cyntaf

cysylltu â’n tîm maethu cymru lleol