sut mae'n gweithio

y broses

y broses

Felly, rydych chi’n barod i gychwyn ar eich taith faethu ond, dydych chi ddim yn siŵr faint o amser mae’r broses faethu’n ei chymryd ym Mlaenau Gwent, na beth sy’n digwydd pan fyddwch chi’n dechrau arni. Gallwn ni helpu – dyma beth allwch chi ei ddisgwyl.

A woman with a young man

cam 1 – cysylltwch

Mae’r cam cyntaf yn eich taith fel gofalwr maeth yn un rhwydd. Mae’n dechrau gyda chi’n cysylltu â ni, naill ai dros y ffôn neu drwy e-bost. Dydy hyn ddim yn teimlo fel llawer, efallai, ond mae’n gam eithriadol o bwysig.

A woman with three girls

cam 2 – yr ymweliad cartref

Ar ôl i chi gysylltu, byddwn yn dechrau’r broses drwy ddod i’ch adnabod chi. Bydd rhai cwestiynau a sgyrsiau cychwynnol, yna byddwn yn dod i ymweld â chi neu’n trefnu galwad fideo.

Mae’n bwysig bod ein tîm yn meithrin perthynas â chi, yn deall beth sydd bwysicaf i chi yn ogystal â phwy rydych chi’n ei werthfawrogi fwyaf yn eich bywyd. Rydyn ni eisiau dysgu cymaint â phosibl amdanoch chi a’r lle rydych chi’n ei alw’n gartref.

A woman with two girls

cam 3 – yr hyfforddiant

Enw eich cwrs hyfforddi cyntaf ar gyfer maethu yw “Paratoi i Faethu”, neu weithiau “Sgiliau Maethu”. Bydd yn cael ei gynnal dros ychydig ddyddiau, neu gyda’r nos. Dyma eich cyflwyniad i’r hyn y bydd bod yn ofalwr maeth yn ei olygu. 

Byddwn yn dysgu mwy i chi am y rôl i wneud yn siŵr ei bod yn addas i chi, a byddwch hefyd yn gallu gwneud llawer o gysylltiadau newydd – gyda chyd-ofalwyr maeth, a’n tîm ym Mlaenau Gwent.

Elderly people with two boys

cam 4 – yr asesiad

Ar ôl yr ymweliad cartref, byddwn yn dechrau’r asesiad. Dyma pryd byddwch yn dysgu beth fydd maethu yn ei olygu i chi a’ch teulu. Er gwaethaf yr enw, rydyn ni’n addo nad yw hwn yn brawf, dim ond cyfle i ni weld sut mae eich teulu’n gweithio. Mae hefyd yn gyfle i chi a’ch teulu ofyn unrhyw gwestiynau a siarad am unrhyw beth a allai fod ar eich meddwl. 

Yn ystod ein hasesiadau, mae ein tîm yn ystyried cryfderau a gwendidau eich uned deuluol gyda gweithwyr cymdeithasol medrus. Rydyn ni’n canolbwyntio ar eich paratoi ar gyfer y manteision a’r heriau y gall maethu eu cynnig.

Family

cam 5 – y panel

Mae gan bob tîm Maethu Cymru banel lle bydd eich asesiad yn cael ei ystyried, ble bynnag rydych chi’n byw, ac mae’n bwysig cofio bod y panel yno i helpu.

Dydy’r panel ddim yn bodoli i ganiatáu neu wrthod eich cais. Yn hytrach, mae’n edrych ar eich cais o bob ongl, ac yn gwneud argymhellion ynghylch beth fyddai’n gweithio orau i chi.

Mae aelodau’r panel yn cynnwys aelodau annibynnol a gweithwyr gofal cymdeithasol gwybodus a phrofiadol. Maen nhw’n edrych ar bob darpar ofalwr maeth fel unigolyn.

A girl smiling

cam 6 – y cytundeb gofal maeth

Ar ôl i’r panel weld eich asesiad a gwneud argymhellion, byddwn yn edrych ar y cytundeb gofal maeth gyda’n gilydd. Mae’r ddogfen hon yn nodi beth mae bod yn ofalwr maeth yn ei olygu. Bydd yn amlinellu popeth, o’ch cyfrifoldebau bob dydd i’r gefnogaeth a’r arweiniad ehangach y byddwch yn eu cynnig. Mae hefyd yn cynnwys yr holl wasanaethau a chanllawiau ychwanegol y byddwn yn eu cynnig i chi, fel eich rhwydwaith a’ch tîm yn ein perthynas barhaus.

Woman and young girl using computer to make video call

ydych chi’n barod i gymryd y cam cyntaf?

cysylltwch