sut mae'n gweithio

sut mae'n gweithio

sut mae’n gweithio

Pan fyddwch yn meddwl am faethu, efallai y byddwch yn rhagweld teulu mawr cariadus o wahanol oedrannau. Mae maethu ym Mlaenau Gwent yn debyg iawn i deulu mawr, gan fod gennyn ni gysylltiadau da. Rydyn ni’n falch o’n rhwydwaith ymroddedig, sy’n darparu arbenigedd, cefnogaeth ac arweiniad pryd bynnag y bydd angen hynny arnoch.

Mae gan ein tîm ym Mlaenau Gwent wasanaeth cymorth dros y ffôn y tu allan i oriau swyddfa. Y tîm lleoli sy’n gofalu am y gwasanaeth hwn, er mwyn cynnig rhagor o gefnogaeth i’n teuluoedd gofal maeth. Mae’n ymwneud â bod yno ym mhob ffordd y gallwn ni, pan fydd ein hangen ni arnoch chi.

Adult tying childs shoe lace

gwell gyda’n gilydd

Rydyn ni yma i helpu’r plant yn ein gofal yn ogystal â’u teuluoedd maeth. Rydyn ni wir yn credu bod maethu’n well pan fyddwn ni’n gweithio gyda’n gilydd, a dyna pam rydyn ni’n cynnig cymaint o gefnogaeth.

Mae Maethu Cymru Blaenau Gwent yn ymdrech tîm; rydyn ni’n gweithio gyda’n gilydd bob dydd. Mae’n gydweithio go iawn, gan ein bod yn rhan o gymuned ehangach Maethu Cymru – sy’n cynnwys pob un o 22 Awdurdod Lleol Cymru. Rydyn ni i gyd yn sefydliadau nid-er-elw ymroddedig, ac mae hyn yn golygu bod popeth yn mynd yn ôl i’n cymuned, gan roi yn ôl i’r lle mae ei angen fwyaf.

Family in the mountain

beth sy'n ein gwneud ni'n wahanol

Dydyn ni ddim yn asiantaeth faethu gyffredin, ond rhan o dîm cenedlaethol o holl dimau maethu’r Awdurdodau Lleol ledled Cymru. 

Mae ein tîm ym Mlaenau Gwent yn cynnig seibiant i ofalwyr plant ag anableddau, cefnogaeth ychwanegol gydag addysg i’r plant hynny sydd angen ychydig mwy o amser, a hyd yn oed mwy o gyfleoedd hyfforddi i’n gofalwyr maeth.

mwy o wybodaeth am maethu cymru blaenau gwent

Woman and young girl using computer to make video call

cysylltwch