blog

Neges gan Gomisiynydd Plant Cymru

Neges bwysig o gefnogaeth i’n hymgyrch i recriwtio mwy o ofalwyr maeth o blith pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig gan Gomisiynydd Plant Cymru

“Mae maethu yn wasanaeth hanfodol sydd yn medru cynnig amgylchedd diogel a chariadus i rai o’r plant mwyaf bregus. 

“Mae plant sydd yn mynd i’r system ofal yn dod o amryw o gefndiroedd, ac felly, mae’n bwysig iawn ein bod yn cael ystod eang o ofalwyr maeth arfaethedig hefyd. 

“Gyda phlentyn sydd yn mynd drwy brofiad ansicr ac anodd, mae teulu maeth sydd yn deall cefndir diwylliannol y plentyn, yn siarad iaith gyntaf y plentyn neu’n arfer yr un grefydd yn medru gwneud gwahaniaeth mawr  er mwyn helpu’r plentyn hwnnw i deimlo’n ddiogel ac yn gysurus. 

“Mae teuluoedd yn amrywio o ran siâp, maint, lliw a diwylliant, ac mi ddylai teuluoedd maeth adlewyrchu hyn – rwyf yn annog unrhyw un sydd wedi ystyried maethu i gysylltu gan fod yna blant o gefndiroedd amrywiol sydd angen y cymorth hwnnw.”

Rocio Cifuentes yw Comisiynydd Plant Cymru; mae hi wedi llenwi’r rôl yma ers Ebrill 2022.

Pwrpas ei swydd yw dweud wrth eraill am bwysigrwydd hawliau plant, ac i edrych ar sut mae penderfyniadau cyrff cyhoeddus yng Nghymru, yn cynnwys Llywodraeth Cymru, yn effeithio ar hawliau plant.

Story Time

Stories From Our Carers

Woman and young girl using computer to make video call

cysylltwch â ni heddiw

cysylltwch