trosglwyddo i ni

dewiswch faethu cymru blaenau gwent

Mae Maethu Cymru’n sefydliad nid-er-elw. Rydyn ni’n canolbwyntio ar bobl. Ein pwrpas yw cefnogi a grymuso gofalwyr maeth a chreu’r dyfodol disgleiriaf posibl ar gyfer plant lleol – dim gwneud elw.

Rydyn ni’n rhan o dîm ehangach Maethu Cymru – y tîm cenedlaethol a asiantaethau maethu’r Awdurdodau Lleol yng Nghymru. Os ydych chi’n maethu gyda’ch Awdurdod Lleol, rydych chi eisoes yn rhan o Maethu Cymru.

Os ydych chi’n ofalwr maeth eisoes ond ddim yn maethu fel rhan o’ch Awdurdod Lleol, gallwch drosglwyddo atom ni.

Two women and a girl

manteision maethu gydag awdurdod lleol

Ein Hawdurdod Lleol yma ym Mlaenau Gwent sy’n gyfrifol am bob plentyn a pherson ifanc sydd angen gofal maeth. Felly, rydyn ni’n gweithio’n galed i ddeall a phenderfynu’n union beth sydd ei angen ar bob plentyn, yn ogystal â phob teulu maeth.

Rydyn ni’n blaenoriaethu cadw plant yn y cymunedau lleol maen nhw’n eu hadnabod ac yn eu caru. Gallwn wneud hyn oherwydd, fel sefydliad nid-er-elw, mae’r holl gyllid rydyn ni’n ei dderbyn yn mynd tuag at y gwasanaeth rydyn ni’n ei ddarparu, a dim i unman arall.

Bydd eich rôl fel rhiant maeth yn llawn buddion, oherwydd rydym yn cynnig cymorth ac arweiniad rhagorol yn ogystal â phecyn cystadleuol o gyllid a buddion.

A woman with a boy

yr hyn yr ydym yn ei gynnig ym maethu cymru blaenau gwent

  • Lwfansau ariannol hael. Er enghraifft, os byddwch yn maethu dau berson ifanc 13 ac 16 oed gyda Blaenau Gwent, byddwch yn cael o leiaf £543 yr wythnos. Darllenwch fwy am dâl i ofalwyr maeth yma
  • Cyfarwyddyd, cefnogaeth a hyfforddiant gan Fy Nhîm Cefnogol (Mhyst) – dewis amgen effeithiol i ofal preswyl i blant sydd mewn gofal ag anghenion cymhleth iawn
  • Llawer iawn o gefnogaeth benodol i chi, a gweithiwr cymdeithasol unigol ar gyfer pob plentyn
  • Mynediad uniongyrchol i gymorth seicolegol arbenigol
  • Cefnogaeth arbennig i blant sy’n profi unrhyw anawsterau mewn addysg
  • Mentora gan ofalwyr maeth eraill, a grŵp cymdeithas gofalwyr maeth lleol
  • Amrywiaeth o adnoddau dysgu gan gynnwys e-ddysgu, podlediadau, deunyddiau darllen a gweithdai

Darllenwch fwy am gefnogaeth a gwobrau yma.

“Fe wnes ddechrau maethu gydag asiantaeth fasnachol ac roeddwn gyda nhw am dros 14 mlynedd. Doeddwn i erioed eisiau iddi i fod yn swydd, ac os ydych chi’n gweithio i asiantaeth, mae’n rhaid iddo fod yn fusnes. Dechreuodd fod mor amlwg i fi a roedd yn teimlo’n ofnadwy gan wybod eu bod, er enghraifft, yn rhoi tendrau mewn ar gyfer plant. Roedd y cyfan am yr arian.”

-Liz a Joe, gofalwyr maeth Blaenau Gwent

Darllenwch y stori gyfan yma.

 

 

 

sut i drosglwyddo atom ni

Mae’r broses o drosglwyddo o’ch asiantaeth maethu bresennol i’r Awdurdod Lleol yn rhwydd.

Yn ein sgwrs gyntaf, byddwn yn trafod yn agored sut mae’r broses yn mynd i weithio i chi. Gan eich bod eisoes yn y byd maethu, bydd y broses yn un benodol i’ch amgylchiadau chi.

Rydym am wybod sut allwn ni eich cefnogi yn y ffordd orau yn y dyfodol, nodi unrhyw anghenion a sicrhau ein bod yn eich adnabod yn drylwyr ar gyfer paru yn y dyfodol, felly ym mhob un o’r camau isod, bydd y profiad yn unigryw i chi.

I wybod mwy, lawrlwythwch ein canllaw trosglwyddo sydd ar gael isod.

transfer to foster wales

cael eich canllaw trosglwyddo

Cliciwch ar y botwm isod i dderbyn canllaw ‘Trosglwyddo atom Ni’ sy’n cynnwys mwy o wybodaeth am fanteision trosglwyddo atom ni, sut mae’r broses yn gweithio a pham ddylech chi drosglwyddo at Faethu Cymru Blaenau Gwent.

gadewch i ni siarad am drosglwyddo i faethu cymru blaenau gwent

Ganolfan Adnoddau Teulu, Heol Beaufort, Glyn Ebwy, NP23 5LH
Call 01495 357792 neu 01495 356037

Cursor pointer icon Phone ringing icon Open envelope icon