pam maethu gyda ni?

pam ein dewis ni?

pam ein dewis ni?

Felly, pam dewis Maethu Cymru Blaenau Gwent ar gyfer eich taith faethu? 

Ni yw’r rhwydwaith cenedlaethol o wasanaethau maethu nid-er-elw ar draws Cymru, sy’n golygu ein bod yn gweithio’n uniongyrchol yn eich cymuned – lle mae bwysicaf.

Rydyn ni’n credu ei fod yn ymwneud â dewis pobl, dim elw. Rydyn ni wedi ymrwymo i weithio fel tîm gyda gofalwyr maeth i greu dyfodol gwell i blant lleol drwy eu helpu i aros yn eu hardal leol pan fydd hynny’n iawn iddyn nhw.

Rydyn ni wedi ymrwymo i greu dyfodol gwell i blant lleol Blaenau Gwent.

A family in front of the house

ein cenhadaeth

Mae angen rhywfaint o gefnogaeth ychwanegol ar rai o’r plant sy’n byw ym Mlaenau Gwent. Mae angen gofalwyr maeth gofalgar, amyneddgar fel chi arnyn nhw i helpu i greu dyfodol gwell iddyn nhw.

O fabis i blant yn eu harddegau a phlant bach i frodyr a chwiorydd a hyd yn oed rhieni ifanc, mae stori pob un ohonyn nhw’n unigryw, ond mae ein cenhadaeth yr un fath: eu helpu i greu dyfodol cadarnhaol.

Two women and a girl

ein cefnogaeth

Pan fyddwch chi’n ymuno â’n tîm maethu, ni fydd eich rhwydwaith cefnogi lleol a fydd yn cynnig yr holl help sydd ei angen arnoch chi a’r plentyn yn eich gofal.

Ble bynnag y bydd eich taith faethu yn mynd â chi, bydd ein tîm gyda chi bob cam o’r ffordd. Byddwn yn cynnig y cyngor, y profiad a’r hyfforddiant y bydd eu hangen arnoch i lwyddo.

Family in the mountain

ein ffyrdd o weithio

Fel rhwydwaith cydweithredol, mae cysylltiadau a chydweithio wrth galon popeth rydyn ni’n ei wneud

Rydyn ni’n gweithio fel rhan weithredol o’r gymuned ym Mlaenau Gwent, yn gwneud yn siŵr ein bod yn rhan o’ch bywyd bob dydd. Rydyn ni’n cydnabod pwysigrwydd trin pob plentyn fel unigolyn sydd ag anghenion unigryw, ac mae ein gofalwyr maeth yn unigryw hefyd.

Ein rôl ni yw helpu pob plentyn i fod y gorau y gall fod drwy fanteisio i’r eithaf ar ei dalentau a’i gefnogi i dyfu bob cam o’r ffordd.

2 adults and 2 children outside together

eich dewis chi

Mae dewis Maethu Cymru yn golygu dewis gweithio gyda phobl sy’n malio. Pobl sydd wedi’u hyfforddi ac sy’n ymroddedig. Pobl go iawn sy’n byw lle rydych chi’n byw ac sy’n deall realiti bywyd yn eich cymuned.

Cymerwch y cam cyntaf heddiw a chysylltu â’n tîm.

Woman and young girl using computer to make video call

cysylltwch