ffyrdd o faethu

mathau o faethu

mathau o ofal maeth

Mae cartref yn noddfa ddiogel lle mae gennyn ni’r hawl i deimlo’n ddiogel a chael ein caru. Rydyn ni’n credu bod gan bob plentyn hawl i gartref cariadus lle gall ddysgu a thyfu. Lle i fyw, dysgu, chwerthin a theimlo ei fod yn cael ei garu. 

Mae pob cartref yn wahanol, felly hefyd y gofal maeth y mae ein teuluoedd yn ei ddarparu. Gall maethu olygu unrhyw beth o ychydig oriau, neu aros dros nos, i rywbeth mwy hirdymor. Yn union fel nad oes math nodweddiadol o faethu, does dim teulu maeth nodweddiadol chwaith. Rydyn ni bob amser yn addasu i anghenion y plentyn, ac yn cyfateb hyn â’r math o ofal y gall y gofalwr maeth ei ddarparu.

gofal maeth tymor byr

A woman with a boy

Mae gofal maeth tymor byr yn golygu hynny’n union – er y gall amrywio o aros dros nos i gyfnod mor hir â blwyddyn efallai. Mae’n ymwneud â beth bynnag sydd orau i blentyn penodol a’i deulu maeth newydd.

Two men and a boy playing ball

Mae’n bwysig pwysleisio – dydy trefniant maeth tymor byr ddim yn golygu llai o effaith, a dweud y gwir mae’r gwrthwyneb yn wir. Mae’n cynnig y cam diogel cyntaf ar daith faethu i blentyn sydd ei angen. Mae’n golygu bod y teulu maeth yn darparu cartref diogel a chariadus i blentyn cyn iddo symud ymlaen i bethau gwych.

gofal maeth tymor hir

A woman and a boy on the bench

Mae gofal maeth tymor hir yn darparu cartref sefydlog a chariadus gyda theulu maeth, i blentyn sydd angen rhywfaint o sefydlogrwydd. Yn aml, mae’n golygu paru’n fwy ystyrlon rhwng y plentyn a’i deulu maeth, gan sicrhau eu bod yn cael y gefnogaeth a’r anogaeth barhaus sydd eu hangen arnyn nhw.

I blentyn mewn gofal maeth, mae gofal tymor hwy yn darparu teulu maeth sefydlog am oes, ac yn creu’r amgylchedd iawn iddo ffynnu ynddo.

mathau arbenigol o ofal maeth

Er bod y tymor byr a’r tymor hir yn cynnwys pob math o ofal maeth, mae rhai mathau mwy arbenigol i’w cael hefyd, gan gynnwys:

A girl outside with the family

seibiant byr

Mae seibiant byr, neu ofal cymorth, yn cynnig seibiant byr i blentyn sydd ei angen fwyaf. Dydy hyn ddim yn cael ei ddiffinio gan gyfnod penodol o amser, ond mae’n cynnig gwyliau bach am noson, penwythnos neu ychydig oriau hyd yn oed. 

Mae ein tîm yn cynllunio seibiant byr ymlaen llaw, gan wneud yn siŵr ei fod yn digwydd yn rheolaidd neu dim ond pan fydd angen hynny ar y plentyn. Mae seibiant byr yn cynnig cyfleoedd newydd gwych i blentyn gael profiad o deulu a chartref gwahanol, gan helpu i greu atgofion newydd iddo.

Mae gofalwyr maeth tymor byr yn dod yn rhan o’r teulu estynedig, yn cynnig amgylchedd cariadus pan fydd ei angen fwyaf.

Adult and teenager embracing by sea with backs to us

rhiant a phlentyn

Mae lleoliad gofal maeth ar gyfer rhiant a phlentyn yn ymwneud â helpu rhieni i ddatblygu’r sgiliau sydd eu hangen arnyn nhw, yn bersonol ac ar gyfer eu plentyn. Mae’r math hwn o leoliad yn eich galluogi chi i rannu eich profiad magu plant eich hun â rhywun sydd wir angen y gefnogaeth honno. Byddwch yn cael cyfle i feithrin y genhedlaeth nesaf fel eu bod yn gallu gwneud yr un peth. 

Mae’n rhan bwysig o’r daith faethu i lawer, ac yn un sy’n gallu gwneud byd o wahaniaeth i deulu.

gofal therapiwtig – Fy Nhîm Cymorth (MyST)

Mae darparu gofal maeth therapiwtig yn fath gwerth chweil o ofal, a bydd ein tîm bob amser yn rhoi cefnogaeth ychwanegol i’r plentyn ac i’r gofalwyr maeth dan sylw.

Gall plant sydd ag anghenion emosiynol neu ymddygiadol mwy cymhleth elwa o fath ychydig yn wahanol o ofal. Dyna beth gall lleoliadau therapiwtig ei ddarparu. 

Mae’n golygu rhywfaint o gefnogaeth ac arweiniad ychwanegol y gallai fod ei angen arnyn nhw, a all eu helpu i ddatblygu.

Dyma clip byr o rai o’n gofalwyr maeth. Gael gwybod mwy: https://www.mysupportteam.org.uk/cy/maethu-therapiwtig/

llety â chymorth

Mae gadael cartref yn brofiad brawychus a chyffrous i unrhyw berson ifanc. Pan fydd person ifanc yn gadael gofal maeth neu os nad oes ganddo deulu i'w gefnogi, gall hyn fod yn fwy heriol.

A young man walking with a woman

Gallech helpu person ifanc 16-21 oed drwy ddarparu pont rhwng gofal a byw’n annibynnol. Byddech yn cefnogi’r person ifanc mewn ffordd debyg i letywr. Ni fyddech yn cael eich cofrestru fel gofalwr maeth a byddwch yn cael eich asesu’n wahanol.

Woman and young girl using computer to make video call

cysylltwch