pwy all faethu?
Mae bron i unrhyw un yn gymwys i ddod yn ofalwr maeth, felly os ydych chi’n meddwl tybed sut mae maethu’n gweithio a beth allwch ei ddisgwyl, gallwch ddod o hyd i’r atebion yma.
dysgwych mwycydweithio i adeiladu gwell dyfodol i blant lleol
Rydyn ni’n credu mewn gweithio gyda’n gilydd i greu dyfodol gwell i’r holl blant yn ein hardal leol.
Ni yw Maethu Cymru Mlaenau Gwent, rhan o rwydwaith cenedlaethol o 22 gwasanaeth maethu’r Awdurdodau Lleol yng Nghymru.
Mae maethu’n golygu gwneud gwahaniaeth i fywyd plentyn, gan ei alluogi i gyrraedd ei lawn botensial. Rydyn ni’n gweithio’n galed i ddarparu gwasanaeth o safon uchel i blant a phobl ifanc drwy ddarparu’r holl hyfforddiant a chefnogaeth sydd eu hangen ar ein hamrywiaeth eang o ofalwyr maeth i ddiwallu eu hanghenion.
Mae bron i unrhyw un yn gymwys i ddod yn ofalwr maeth, felly os ydych chi’n meddwl tybed sut mae maethu’n gweithio a beth allwch ei ddisgwyl, gallwch ddod o hyd i’r atebion yma.
dysgwych mwyMae pob cartref yn wahanol, felly hefyd y gofal maeth y mae ein teuluoedd yn ei ddarparu. Gall maethu olygu unrhyw beth o ychydig oriau, neu aros dros nos, i rywbeth mwy hirdymor.
beth sy'n iawn i chi?Rydyn ni’n credu ei fod yn ymwneud â dewis pobl, dim elw. Rydyn ni wedi ymrwymo i weithio fel tîm gyda gofalwyr maeth i greu dyfodol gwell i blant lleol drwy eu helpu i aros yn eu hardal leol pan fydd hynny’n iawn iddyn nhw.
Fel gofalwr maeth gyda thîm Maethu Cymru Blaenau Gwent, byddwch hefyd yn derbyn lwfansau ariannol cystadleuol a gwobrau eraill. Darganfyddwch fwy yma.
Hoffech chi gychwyn ar eich taith faethu? Dysgwch sut gallwch chi gymryd y cam cyntaf gyda ni heddiw.
dysgwych mwyRydyn ni'n gwybod bod dod yn ofalwr maeth yn gallu bod yn heriol, a bod gennych chi lawer o gwestiynau ar hyd y ffordd.
dod o hyd i'r atebion