stori

Liz a Joe: Pam nad oedd maethu gydag asiantaeth fasnachol yn iawn i ni.

Bu Liz a’i gŵr Joe yn ofalwyr maeth gyda Maethu Cymru Blaenau Gwent am tua pedair blynedd. Cyn hynny, bu Liz yn maethu i asiantaeth faethu annibynnol am tua 14 mlynedd.

Buom yn siarad gyda Liz a Joe am eu profiad maethu a gofyn i Liz pam iddi benderfynu symud o asiantaeth faethu annibynnol i Maethu Cymru.


“Rwyf wedi bod yn maethu am dros 18 mlynedd ac mae’n rhywbeth roeddwn i bob amser eisiau ei wneud; rwy’n wirioneddol mwynhau fod yn fam.

“Fe wnes ddechrau maethu gydag asiantaeth fasnachol ac roeddwn gyda nhw am dros 14 mlynedd. Doeddwn i erioed eisiau iddi i fod yn swydd, ac os ydych chi’n gweithio i asiantaeth, mae’n rhaid iddo fod yn fusnes. Dechreuodd fod mor amlwg i fi a roedd yn teimlo’n ofnadwy gan wybod eu bod, er enghraifft, yn rhoi tendrau mewn ar gyfer plant. Roedd y cyfan am yr arian.”

“Dros y blynyddoedd rwyf hefyd wedi gweithio gyda Blaenau Gwent ac mae llawer o fy mhlant maeth wedi dod o’r awdurdod lleol. Roeddwn yn mwynhau gweithio gyda nhw. Roedd y gweithwyr cymdeithasol a’r rheolwyr yn hyfryd. Fe wnes siarad gyda nhw un diwrnod yn gwybod y gallai fod yn fwy cyfleus i fi. Fe wnes adeiladu perthynas gyda nhw, ac roedd yn teimlo fel y peth iawn i wneud.

“Fyddai’r asiantaeth fasnachol ddim yn rhoi llawer o ystyriaeth i gyfateb y plant gyda’r teulu maeth cywir; fe fydden nhw’n lleoli plant lle bynnag y medrent.”

Transfer to your local authority fostering service

Mae Liz a Joe yn mwynhau maethu plant hŷn a phobl ifanc yn yr arddegau. Maent yn teimlo fod maethu’r grŵp oedran yma wedi gweithio’n dda iddynt ac mae’n flin ganddynt nad oes digon o ofalwyr maeth a hoffai faethu pobl ifanc yn eu harddegau.

“Wnaethon ni ddim dewis yn benodol i feithrin yr arddegau, dim ond digwydd wnaeth o, ond roedd o yn gweithio’n dda iawn i ni. Mae gennym grwt sy’n awr yn 17 ac mae wedi byw gyda ni ers ei fod yn 4; rydyn ni wedi ei weld drwy bob cyfnod o’i fywyd hyd yma. Ein crwt ni yw e ac mae fel mab i ni. Ond mae gennym ni hefyd ferch yn ei harddegau, a ddaeth atom pan oedd yn 12 oed.

“Pan fyddwch yn gweld y newid ynddyn nhw ac yn eu gweld yn gwneud yn dda, dyna lle’r ydych chi’n teimlo fod y cyfan yn werth chweil.

“Roedd y ferch yn her go iawn pan ddaeth yma. Roedd yn gwrthod mynd i’r ysgol ac roedd yn anodd. Fe fyddech chi’n gweld plentyn hollol wahanol pe byddech yn ei gweld heddiw. Mae’n blentyn hyfryd. Mae pob plentyn, nid dim ond y rhai yn eu harddegau, yn dod gyda heriau.

“Mae maethu yr arddegau yn union fel maethu unrhyw grŵp oedran arall. Maen nhw’n union yr un fath â phobl ifanc eraill, dim yn well nac yn waeth. Mae problemau ganddynt i gyd. Weithiau gallant fod yn anodd oherwydd eu bod yn credu nad oes neb yn gwrando arnyn nhw na neb yn eu gweld. Maent mor rhwystredig fel eu bod yn gweiddi oherwydd nad oes neb yn eu clywed.

“Nid oes gan rai o’r plant hyn sgiliau sylfaenol o’u magwraeth felly weithiau mae angen i ni eu dysgu sut i ddefnyddio cyllell a fforc, clymu carrai eu hesgidiau neu ddweud faint o’r gloch yw hi. Mae’n anodd iawn eu gweld fel hyn, ond dyna pam ein bod yn dal i’w wneud. Rydyn ni eisiau’r gorau iddyn nhw.”

Rhan o fod yn ofalwr maeth yw helpu i gadw cwlwm teuluol rhwng plant a’u rhieni. Mae Liz a Joe yn tanlinellu pwysigrwydd deall rhieni’r plentyn a meithrin perthynas dda gyda nhw, os yw hynny’n bosibl.

“Rydyn ni’n tynnu ymlaen gymaint ag y medrwn gyda’r rhieni. Mae’n gwneud bywyd yn llawer haws i gael perthynas dda. Mae pobl yn meddwl nad yw’r rhieni yma yn caru eu plant ond dyw hynny ddim yn wir. Dydyn ni erioed wedi cerdded yn eu hesgidiau nhw, felly ddylen ni byth farnu. Chawson nhw ddim y bywyd neu’r fagwraeth orau eu hunain. Ceisiwch eu deall, a byddwch yn gweld faint mae’r rhan fwyaf ohonyn nhw’n caru eu plant ond nad ydi’r sgiliau ganddyn nhw.

“Rydyn ni’n ceisio gweithio gyda rhieni. Rydyn ni’n siarad gyda nhw yn rheolaidd ac maen nhw yn siarad gyda ni. Maent yn gweld ein bod eisiau helpu ac eisiau’r gorau ar gyfer eu plant. Weithiau hefyd mae’n rhaid i ni siarad lan dros y rhieni, gweithio fel canolwyr rhyngddyn nhw a’r plant, a’u helpu i ddeall ei gilydd.”

Transfer to your local authority fostering service

Mae Liz a Joe yn ei chael yn rhwyddach maethu pobl ifanc yn eu harddegau oherwydd ei fod yn eu galluogi i weithio a maethu. Os yw’ch gwaith yn hyblyg, neu’ch bod yn gweithio’n rhan-amser, neu os yw’ch cyflogwr yn gyflogwr Cyfeillgar i Faethu, gallwch ei gyfuno gyda maethu a chael eich cefnogi ar y daith.

“Mae’n rhwyddach gweithio a maethu pan ydych yn maethu plant yn yr arddegau. Mae ein plant maeth yn ddigon hen i aros gartre ar ben eu hunain, maent yn mwynhau hynny. Mae’n union fel unrhyw deulu arferol arall – mam a dad yn mynd mas i weithio.

“Mae ein crwt bellach yn 17, felly mae’n gwybod sut i wneud ei fwyd a chadw yn ddiogel a dyw e byth yn ein siomi, os unrhyw beth mae bob amser yn ein synnu ar yr ochr orau.”

Roedd gan Liz a Joe hefyd lawer i’w ddweud am y gefnogaeth a gânt gan dîm maethu yr awdurdod lleol.

“Rydyn ni’n cael cefnogaeth gan yr ysgol, gweithiwr cymdeithasol gwych, ac mae gweithiwr cymdeithasol y plant wedi bod yn fendigedig. Rydyn ni’n tynnu ymlaen gyda nhw yn dda a byth yn teimlo ein bod ar ben ein hunain. Maen nhw’n ymddiried ynom ni ac yn gadael i ni wneud ein penderfyniadau ond bob un tro rydym wedi bod eu hangen, maent yno bob amser i’n cynghori a’n cefnogi.”

“Pan wnaethon ni ddechrau maethu gyda thîm Maethu Cymru Blaenau Gwent, fe wnaethon nhw hefyd gynnig y gwasanaeth un i un yma, MyST. Dim ond yn ardal Gwent mae hyn ar gael. Fe wnes i ac mae’n rhaid i ddweud fod tîm MyST yn hollol wych! Mae ganddyn nhw’r bobl orau yn gweithio yno. Mae Joe yn dweud pan ddaw Jennie i’n gweld ei fod fel mynd allan o fath twym (chwerthin). Mae’n tawelu popeth. Hyd yn oed pan orffennodd ein plant gyda’r tîm MyST, roedden ni’n dal i fedru cysylltu â nhw i gael cyngor a rydyn ni’n dal i gadw mewn cysylltiad hyd heddiw.”

Nid yw maethu yn rhywbeth y dechreuwch ei wneud dros nos. Ond does dim raid i chi fod yn fath o arwr, bod â chymwysterau na sgiliau arbennig na phrofiad hir o ofal plant i ddod yn ofalwr maeth. Beth ydych chi angen i fod yn rhiant maeth?

Meddai Liz, “Mae’n debyg eich bod angen ychydig o amynedd (chwerthin). Yn bersonol, fe wnaeth cael fy mhlant fy hun – oedd yn eu harddegau bryd hynny – beth profiad defnyddiol i mi o fod yn rhiant. Doeddwn i erioed yn teimlo wedi fy llethu gyda’r heriau a daeth gyda rhai o’r plant maeth, diolch i’r profiad a gefais o fagu fy meibion fy hun.”

Ychwanegodd Joe, “Rwy’n credu ein bod fel pawb arall. Dim ond teulu arferol ydyn ni. Rydyn ni gyd yn eistedd lawr a bwyta gyda’n gilydd, a chael hwyl gyda’n gilydd. Rydyn ni’n gosod ffiniau, yn union fel y byddem gyda’n plant ein hunain, ac mae gennym ni reolau. Ond rwy’n credu ei fod yn gweithio.

“Mae llawer o blant maeth yn ffynnu pan ydych yn creu trefn iddyn nhw a dangos eich bod yn eu caru. Maent yn gwybod mod i’n poeni pan maen nhw’n mynd mas a dim yn dod gartre ar amser. Rwy’n meddwl eu bod yn gwneud iddyn nhw deimlo fel bod rhywun yn eu caru ac maent eisiau gwneud yn dda a pheidio eich siomi.”

Mae Liz a Joe yn profi fod yn rhaid i chi fod ag empathi, y gallu i garu a pharodrwydd i helpu ar gyfer maethu.

“Dangoswch deulu iddyn nhw, eu caru, rhoi ychydig o drefn iddyn nhw a gosod ffiniau, dysgu iddyn nhw sut i ymddwyn.

“Ac yn bwysicaf oll, gwrandwch arnynt, peidio byth siarad atyn nhw. Yn arbennig yn yr arddegau – maen nhw angen cael eu clywed. Maen nhw’n ffromi os nad oes neb yn gwrando ar yr hyn maen nhw eisiau ei ddweud. Byddwch yn iawn os oes gennych sgiliau cyfathrebu da ac yn gwybod sut i wrando.

“Dylech eu trin fel eich plant eich hun. Dysgwch iddyn nhw sut i fod yn garedig, byddwch yn garedig wrthyn nhw, eu dysgu i barchu pobl eraill a gwerthfawrogi amrywiaeth – cefndir plant eraill, ffydd, cyfeiriadedd rhywiol ac yn y blaen. Mae’n bwysig iawn wrth fagu unigolion crwn.”

“Dydyn ni byth yn dweud wrth neb eu fod yn blant mewn gofal. Rydyn ni’n mynd i bobman fel teulu, a dyna sut rydyn ni eisiau iddynt deimlo”

Transfer to your local authority fostering service

Mae angen mawr i Mathu Cymru recriwtio mwy o ofalwyr maeth ar gyfer plant yng Nghymru, sydd angen amgylchedd diogel, cefnogol a chariadus. Mae Liz a Joe yn annog mwy o bobl i gysylltu a holi am faethu gyda thîm Maethu Cymru yr awdurdod lleol.

“Mae’n beth gwych i’w wneud, ac mae rhai o’r plant oedd â mwy o broblemau ac yn fwy heriol yn dal i gadw mewn cysylltiad â ni, ac mae hynny’n hyfryd. Rydych chi’n meddwl, wel, fe allwn i fod wedi gwneud rhywbeth da yno!

“Fe fyddwn i’n dweud wrthych am fynd amdani, ond mae’n rhaid i chi ei ystyried yn ofalus. Nid yw popeth yn rhwydd. Mae pob plentyn yn wahanol, felly mae’n rhaid i chi fod yn barod ar gyfer yr anhysbys a heriau newydd gyda phob lleoliad newydd.”

Ychwanegodd Joe: “Mae’n rhaid i chi roi cant y cant, fedrwch chi ddim ei guddio. Fedren ni byth ei drin fel swydd. Fedren ni ddim ei wneud os nad ydynt yn caru’r gwaith a charu’r plant hefyd. Rydyn ni’n caru pob un copa walltog ohonyn nhw.

“Hefyd, i ddechrau fe fyddwn i’n cymryd popeth yn bersonol. Byddai adborth negyddol neu ymddygiad plentyn yn peri gofid i fi. Mae’n rhaid i chi beidio cymryd pethau yn bersonol mewn maethu. Dyna’r hyn wnaethon ni ei ddysgu ar ôl yr holl flynyddoedd yma. Dysgwch ohono a dal ati.

“At ei gilydd, mae’n rhywbeth y byddem yn bendant yn ei argymell. Pan welwch blant yn troi eu bywydau o amgylch, does dim teimlad tebyg iddo.”


Ydych chi’n meddwl y gallech wneud gwahaniaeth fel Liz a Joe a dod yn ofalwr maeth?

Pam na chysylltwch gyda thîm maethu eich awdurdod lleol heddiw? Byddant yn rhoi mwy o wybodaeth i chi ac yn helpu i’ch llywio drwy’r broses.

Os ydych yn byw yng Nghymru, ewch i wefan Maethu Cymru lle mae’r holl wybodaeth i gysylltu â gwasanaeth eich awdurdod lleol.

Byw ym Mlaenau Gwent? Anfonwch neges atom a byddwn yn cysylltu gyda chi i gael sgwrs gyfeillgar a defnyddiol.

Mae dewis Maethu Cymru, gwasanaeth maethu eich Awdurdod Lleol, yn benderfyniad i weithio gyda phobl go iawn yn eich cymuned, lle mae plant ac nid elw yw’r peth pwysicaf iddynt.


Er mwyn diogelu eu preifatrwydd, a phreifatrwydd y plant a’r bobl ifanc y maen nhw’n rhoi gofal, cariad a chefnogaeth iddynt, mae’r holl enwau wedi’u newid ac mae actorion wedi camu i mewn i’n helpu i adrodd eu straeon anhygoel.

Story Time

Stories From Our Carers

Woman and young girl using computer to make video call

dod yn ofalwr maeth

cysylltwch