LGBTQ + Maethu: stori Arron a Mat
Mae Maethu Cymru Blaenau Gwent yn falch i gefnogi ein gofalwyr maeth LGBTQ+ a byddem wrth ein bodd i annog mwy o gyplau o’r un rhyw i faethu plentyn neu berson ifanc.
Yn aml mae gwybodaeth anghywir yn mynd o amgylch am gyplau maeth o’r un rhyw ond rydym yma i’ch sicrhau na fydd eich rhywioldeb byth yn eich atal rhag dod yn ofalwyr maeth – y peth pwysicaf yw eich angerdd a’ch penderfyniad i drawsnewid bywyd plentyn.
Felly rydym wedi siarad gyda ‘Mat ac Arron’, gofalwyr maeth llwyddiannus o’r un rhyw oedd eisiau rhannu eu stori gydag eraill o’r gymuned LGBTQ+ sy’n ystyried maethu gyda’u hawdurdod lleol.
Stori Matt ac Arron
Roedd fy ngŵr a finnau wedi siarad am faethu ers cryn amser cyn i ni wneud cais. Yn ogystal â bod yn nerfus oherwydd ein bod yn gwpl o’r un rhyw ond hefyd yn ddynion, a fyddem yn cael ein derbyn gan y gymuned faethu, gan mai’r gred gyffredin yw fod plentyn angen cyffyrddiad benyw gydag agwedd mwy anogol, mamol. Ychydig a wyddem nad felly y byddai.
Fe wnaethom ein cyswllt cyntaf gyda gwasanaethau cymdeithasol Blaenau Gwent a mynegi ein diddordeb mewn cael mwy o wybodaeth. Daeth gweithiwr cymdeithasol cyfeillgar i’n tŷ a gwneud i ni deimlo’n gysurus. Atebodd ein holl bryderon a chwestiynau. Esboniodd y gweithiwr cymdeithasol fod mwy o gyplau o’r un rhyw yn rhieni maeth nag a gredem a hefyd bod dynion sengl yn ofalwyr maeth. Cawsom ein calonogi yn yr ymweliad a phenderfynu symud ymlaen i wneud cais. Bum mlynedd yn ddiweddarach rydym wedi maethu 14 plant i gyd o wahanol gefndiroedd ac anghenion. Ni fu’r daith yn un rhwydd a bu uchafbwyntiau ac adegau pan wnaethom daro’r gwaelod.
Rhai o’r amserau anodd oedd cael merch faeth a gwybod beth i’w ddisgwyl gyda glasoed merch; gan fod yn ddau ddyn, gwireddwyd ein hofnau, beth sy’n digwydd? Sut allwn ni gefnogi gyda’r agwedd yma? Yn lwcus i ni roedd gennym rwydwaith cefnogi gwych o berthnasau a ffrindiau, a roedd ein gweithiwr cymdeithasol ni hefyd bob amser ar gael i roi cymorth a chyngor. Daethom yn arbenigwyr ar y mater ar ôl y flwyddyn gyntaf. Roedd fy ngŵr a finnau yn eithaf ifanc pan wnaethom ddechrau ac nid oedd gennym blant ein hunain. Roeddem bob amser yn cwestiynu os oeddem yn gwneud y peth cywir ac a oeddem yn ddigon ar gyfer y plant yma. Roedd cael cyfarfodydd rheolaidd gyda’n gweithiwr chymdeithasol a’i chael gerllaw os oedd angen yn rhoi rhwyd ddiogelwch i ni ac fe wnaethom sylweddoli mewn dim o dro fod hyn yn deimlad arferol ar gyfer rhieni.
Yr uchafbwyntiau a’r pethau cadarnhaol am faethu yw‘r cwlwm a ddatblygwch gyda’r plant yma. Mae’n anodd ffarwelio a’u gweld yn mynd ond gwybod eich bod wedi rhoi cyfle gwell iddynt a’u bod naill ai yn mynd ymlaen i naill ai fyw gyda’u teulu eu hunain neu deuluoedd newydd yw’r teimlad gorau yn y byd. Mae’n deimlad o fod wedi cyflawni rhywbeth ac yn ymdeimlad o ddiben. Drwy’r blynyddoedd roedd pob plentyn a gawsom wedi dod yn aelod o’r teulu a rydym wedi cadw mewn cysylltiad â’r rhan fwyaf o’r plant a’n gadawodd am borfeydd newydd.
Felly nid oedd ein pryderon yn realaeth. Roeddem yn ddigon ac nid yw bod yn ddyn yn cyfrif gan fod y plant yma angen unrhyw un sydd â phersonoliaeth ofalgar a chefnogol. Mewn diwydiant lle mae’r nifer helaethaf o ddigon yn fenywod, rydym angen mwy o dadau maeth gan fod gan tadau ran yr un mor bwysig wrth fagu plant a rhoi cartref cariadus iddynt.