blog

Syniadau i blant ar gyfer gwneud cardiau Nadolig

Gyda gwyliau’r ysgol a’r Nadolig bron yma, mae’n amser croesawu hwyl yr ŵyl. Beth am ddianc rhag y tywydd oer drwy aros dan do a gwneud cardiau Nadolig cartref gyda’ch plant.

Mae cardiau Nadolig gwaith llaw yn ffordd wych i ddiddanu plant a rhyddhau eu creadigrwydd. Felly dyma grynodeb o rai syniadau gwych am wneud cardiau Nadolig ar gyfer plant.

Cardiau Nadolig ôl-bys carw

Mae rhywbeth arbennig iawn am gerdyn Nadolig gwaith llaw gan blentyn. Mae cardiau Nadolig yn ffordd wych i gael plant i hwyl yr ŵyl. Mae hefyd yn weithgaredd hyfryd ar gyfer plant ac yn rhoi cyfle iddynt greu rhywbeth hardd y gallwch ei anfon at deulu a ffrindiau.

Mae cardiau Nadolig ôl-bysedd carw yn syml ond effeithlon.

  1. Gan ddefnyddio brwsh paent, rhowch haen fechan o baent ar flaen bysedd eich plentyn.
  2. Rhowch y bys ar y cerdyn. Daliwch i fynd nes fod gennych nifer y pennau ceirw yr ydych eisiau ar y cerdyn a rhoi cyfle i’r paent sychu cyn symud ymlaen i’r cam nesaf.
  3. Gan ddefnyddio pen coch, rhowch drwyn ar bob carw a defnyddio pen du i wneud y cyrn a’r llygaid.
  4. Yna ysgrifennwch eich neges Nadoligaidd i’ch anwyliaid. Mae mor syml â hynny!
Finger print Christmas Card

Cerdyn Nadolig Ôl-llaw Dyn Eira

Beth am wneud eich cardiau Nadolig yn arbennig iawn eleni ac ychwanegu ôl-llaw eich plentyn? Mae’n rhwydd gwneud cerdyn ôl-llaw dyn eira a gall plant addurno pob ôl-bys unigol fel dynion eira.

  1. Rhowch haen denau o baent gwyn ar law eich plentyn.
  2. Rhowch y llaw ar ddarn lliwgar o gerdyn.
  3. Gan ddefnyddio pen du, rhowch y trwyn a’r botymau ar bob dyn eira, defnyddio pen oren i wneud trwyn moryn ac os hoffech addurno pob dyn eira gyda hetiau a sgarffiau lliwgar.
Handprint snowmen

Mae hyn yn grefft wych i blant o bob oed, ond pam aros yno? Beth am ddefnyddio ôl-troed eich plentyn i wneud cerdyn Nadolig wedi’i ysbrydoli gan garw?

Plu Eira Papur

Mae plu eira yn grefftau Nadolig clasurol. Maent yn rhwydd eu gwneud ac yn llawer iawn o hwyl.

  1. I ddechrau, cydiwch mewn plât neu rywbeth crwn a’i roi yn wastad ar ddarn o bapur.
  2. Yna gwnewch linell gyda phensil tu allan i’r eitem gron ac yna ddefnyddio siswrn i dorri’r cylch allan.
  3. Ar ôl torri’r cylch, plygwch yn ei hanner ac wedyn yn ei hanner wedyn nes fod gennych siâp côn.
  4. Yn nesaf, torrwch ddarnau triongl bach neu unrhyw fath arall yn defnyddio ochrau’r papur wedi plygu.
  5. Unwaith y byddwch yn fodlon gyda’r darnau yr ydych wedi’u torri mas, agorwch y papur a byddwch yn gweld dyluniad gwych. Dyma’ch pluen eira bapur.
  6. Rhowch ruban drwy un o’r tyllau yn y papur a’i hongian ar unrhyw beth yn y tŷ.

Story Time

Stories From Our Carers

Woman and young girl using computer to make video call

cysylltwch â ni heddiw

cysylltwch