blog

Sut y gall cyfeillion a pherthnasau gefnogi gofalwyr maeth?

Sut y gall cyfeillion a pherthnasau gefnogi gofalwyr maeth?

Os ydych yn ystyried maethu, efallai eich bod yn tybio beth yw rôl ffrindiau a pherthnasau o fewn yr aelwyd. A allant gamu mewn a chymryd rhan gyda’r plant? Sut olwg sydd ar y cymorth hwn?

Dydych chi byth ar ben eich hun yn Maethu Cymru Blaenau Gwent. Bydd ein tîm ar gael i’ch cefnogi a’ch annog ar bob cam. Bydd gennych hefyd fynediad i amrywiaeth o grwpiau cefnogi, lle byddwch yn cwrdd â gofalwyr maeth eraill. Bydd hyn yn rhoi cyfle i chi siarad, gwrando a rhannu eich profiadau.

Fodd bynnag, mae cadw mewn cysylltiad yn allweddol a bydd gan lawer o ofalwyr maeth fynediad i’w rhwydweithiau cefnogi eu hunain yn cynnwys ffrindiau a pherthnasau. Gall y cysylltiadau personol hyn fod yn wirioneddol bwysig i ofalwyr maeth a phlant sy’n derbyn gofal wrth gael mynediad i gymorth emosiynol ac ymarferol. Felly gadewch i ni edrych ar rai  ffyrdd y bydd eich ffrindiau a’ch perthnasau yn chwarae rôl bwysig yn eich taith faethu.

Bod yno ar fyr rybudd

Fel gofalwr maeth, mae cael rhywun y gallwch ddibynnu arnynt ar fyr rybudd yn hanfodol. Os oes argyfwng neu ddigwyddiad annisgwyl, gall cael rhywun y gallwch ddibynnu arno wneud i’r holl deulu maeth deimlo’n gysurus.

Helpu plant i deimlo’n rhan o’r teulu

Mae gofalwyr maeth Maethu Cymru Blaenau Gwent yn gwneud popeth a fedrant i helpu plant sy’n derbyn gofal i deimlo’n rhan o’r teulu. Felly pan mae ffrindiau a pherthnasau hefyd yn cymryd rhan, mae’n gyfle i’r plentyn sefydlu cyfeillgarwch newydd. Po fwyaf o fodelau rôl cadarnhaol sydd gan blentyn, y mwyaf yw’r effaith ar eu hunanbarch a’u hymdeimlad o hunaniaeth.

Cefnogaeth emosiynol

Mae cefnogaeth emosiynol yn hanfodol ac fel gofalwr maeth, mae cael ffrindiau a pherthnasau yno iddynt yn werthfawr tu hwnt. Gallai hyn fod mor syml â chlust i gysuro ar ben arall y ffôn ar ôl diwrnod anodd. Mae rhai gofalwyr hyd yn oed wedi derbyn pryd cartref wedi’i gludo at garreg eu drws.

Cefnogaeth gorfforol

Ar gyfer ein gofalwyr maeth, mae cael rhwydwaith cefnogi yn hanfodol yn arbennig pan fedrant roi gofal seibiant byr. Er enghraifft, mae llawer o’r oedolion iau yn ein teuluoedd maeth yn dweud eu bod yn cymryd rhan drwy fynd â phlant mas am y dydd. Gall gwaith cartref fod yn anodd i lawer o blant. Felly mae gofalwyr maeth yn anhygoel o ddiolchgar pan mae cyfaill yn cynnig helpu.

A ywch teulu chi yn barod i faethu?

Gall gwneud y cam cyntaf tuag at ofal maeth weithiau godi ofn, ond rydym yn gwneud yn siŵr ei fod mor rhwydd ag sydd modd. Cysylltwch gyda ni heddiw a byddwn yn darparu pecyn gwybodaeth ynghyd ag unrhyw wybodaeth ychwanegol arall y gallwch fod ei hangen.

Story Time

Stories From Our Carers

Woman and young girl using computer to make video call

cysylltwch â ni heddiw

cysylltwch