blog

Sut gall gofalwyr maeth gefnogi pobl ifanc yn eu harddegau?

Sut gall gofalwyr maeth gefnogi pobl ifanc yn eu harddegau? Fel gofalwr maeth, gall cefnogi person ifanc yn ei arddegau fod yn werth chweil iawn ond gall hefyd fod yn her weithiau.

Gall eu profiadau yn y gorffennol adlewyrchu sut maent yn ymddwyn; mae angen i ofalwyr maeth fod â chydymdeimlad gyda phrofiadau’r person ifanc yn y gorffennol a chyfathrebu gyda nhw ar lefel y gallant gysylltu â hi. Bydd hyn yn helpu i adeiladu perthynas gadarnhaol.

Felly rydym wedi gofyn i arbenigwyr Maethu Cymru i rannu cyngor ymarferol ar sut i ddelio gyda phroblemau arferol yr arddegau, yn ogystal â helpu eich teulu gyda’r pontio maethu.

Sut gall gofalwyr maeth gefnogi pobl ifanc yn eu harddegau?

Deall a bod yn barod.

Mae angen i ni ddeall y gall pobl ifanc fod wedi profi trawma ymhell tu hwnt i’w hoedran cyn cyrraedd eich cartref. Felly mae’n bwysig gweithredu os ydynt yn ymddwyn fel pe byddent yn eich erbyn, bod hynny’n debyg o fod eu ffordd nhw o ymddwyn yn erbyn eu hamgylchiadau.

Arhoswch yn bwyllog, tawel a chariadus

Er fod eich person ifanc yn rhwym o wthio eich botymau, mae’n hanfodol eich bod yn cofio aros yn dawel. Atgoffwch eich hun fod y rhan fwyaf o bobl ifanc yn eu harddegau sy’n ymddwyn fel hyn yn gwneud hynny oherwydd diffyg cydymdeimlad a chariad yn eu bywydau. Arhoswch yn bwyllog, tawel a chariadus – yn eu tro, bydd eich person ifanc yn dysgu chwalu eu muriau ac adeiladu hyder.

Sefydlu ffiniau a rheolau clir

Mae’n bwysig sefydlu ffiniau a rheolau, gadewch iddynt wybod y disgwylir iddynt gyfrannu at y teulu yn yr un ffordd â phawb arall. Gwnewch eich disgwyliadau yn glir a chyson ac os yw’ch person ifanc yn torri’r rheolau, dilynwch hynny gyda chanlyniadau addas.

Siarad gyda’ch gweithiwr cymdeithasol

Mae’ch gweithiwr cymdeithasol yno am reswm ac maent bob amser yn barod i roi help llaw neu glust i wrando os ydych angen hynny. Mae ein gweithwyr cymdeithasol bob amser o fewn cyrraedd, yn rhwydd siarad gyda nhw ac yn bennaf oll eisiau beth sydd orau i bawb. Mae rhannu syniadau, materion a dirnadaeth yn rhai o’r pethau sy’n gwneud Maethu Cymru yn arbenigwyr wrth wneud dyfodol hapus ar gyfer y plant a’r bobl ifanc y gofalwn amdanynt.

Cofiwch, maent yn dal i fod yn blant

Er y gall eich person ifanc maeth fod yn llawer talach na chi ac yn edrych fel oedolyn, maent yn dal i fod dan 18 oed ac angen yr un cariad ag mae unrhyw blentyn yn dyheu amdano. Yn aml, mae pobl ifanc yn eu harddegau yn mwynhau pethau syml fel gweld ffilmiau Disney, ymweld â’r arcedau neu fynd allan am hufen iâ. Gall hyn fod oherwydd na chawsant brofiadau arferol plentyndod. Daliwch eu plentyndod yn fyw a ffurfio cwlwm gyda’ch person ifanc maeth dros y gweithgareddau syml, hwyliog yma.

Story Time

Stories From Our Carers

Woman and young girl using computer to make video call

cysylltwch â ni heddiw

cysylltwch