Gyda gwyliau’r ysgol a’r Nadolig bron yma, mae’n amser croesawu hwyl yr ŵyl. Beth am ddianc rhag y tywydd oer drwy aros dan do a gwneud cardiau Nadolig cartref gyda’ch plant.
Mae cardiau Nadolig gwaith llaw yn ffordd wych i ddiddanu plant a rhyddhau eu creadigrwydd. Felly dyma grynodeb o rai syniadau gwych am wneud cardiau Nadolig ar gyfer plant.
Cardiau Nadolig ôl-bys carw
Mae rhywbeth arbennig iawn am gerdyn Nadolig gwaith llaw gan blentyn. Mae cardiau Nadolig yn ffordd wych i gael plant i hwyl yr ŵyl. Mae hefyd yn weithgaredd hyfryd ar gyfer plant ac yn rhoi cyfle iddynt greu rhywbeth hardd y gallwch ei anfon at deulu a ffrindiau.
Mae cardiau Nadolig ôl-bysedd carw yn syml ond effeithlon.
- Gan ddefnyddio brwsh paent, rhowch haen fechan o baent ar flaen bysedd eich plentyn.
- Rhowch y bys ar y cerdyn. Daliwch i fynd nes fod gennych nifer y pennau ceirw yr ydych eisiau ar y cerdyn a rhoi cyfle i’r paent sychu cyn symud ymlaen i’r cam nesaf.
- Gan ddefnyddio pen coch, rhowch drwyn ar bob carw a defnyddio pen du i wneud y cyrn a’r llygaid.
- Yna ysgrifennwch eich neges Nadoligaidd i’ch anwyliaid. Mae mor syml â hynny!
Cerdyn Nadolig Ôl-llaw Dyn Eira
Beth am wneud eich cardiau Nadolig yn arbennig iawn eleni ac ychwanegu ôl-llaw eich plentyn? Mae’n rhwydd gwneud cerdyn ôl-llaw dyn eira a gall plant addurno pob ôl-bys unigol fel dynion eira.
- Rhowch haen denau o baent gwyn ar law eich plentyn.
- Rhowch y llaw ar ddarn lliwgar o gerdyn.
- Gan ddefnyddio pen du, rhowch y trwyn a’r botymau ar bob dyn eira, defnyddio pen oren i wneud trwyn moryn ac os hoffech addurno pob dyn eira gyda hetiau a sgarffiau lliwgar.
Mae hyn yn grefft wych i blant o bob oed, ond pam aros yno? Beth am ddefnyddio ôl-troed eich plentyn i wneud cerdyn Nadolig wedi’i ysbrydoli gan garw?
Plu Eira Papur
Mae plu eira yn grefftau Nadolig clasurol. Maent yn rhwydd eu gwneud ac yn llawer iawn o hwyl.
- I ddechrau, cydiwch mewn plât neu rywbeth crwn a’i roi yn wastad ar ddarn o bapur.
- Yna gwnewch linell gyda phensil tu allan i’r eitem gron ac yna ddefnyddio siswrn i dorri’r cylch allan.
- Ar ôl torri’r cylch, plygwch yn ei hanner ac wedyn yn ei hanner wedyn nes fod gennych siâp côn.
- Yn nesaf, torrwch ddarnau triongl bach neu unrhyw fath arall yn defnyddio ochrau’r papur wedi plygu.
- Unwaith y byddwch yn fodlon gyda’r darnau yr ydych wedi’u torri mas, agorwch y papur a byddwch yn gweld dyluniad gwych. Dyma’ch pluen eira bapur.
- Rhowch ruban drwy un o’r tyllau yn y papur a’i hongian ar unrhyw beth yn y tŷ.