Gwyddom y gall y Nadolig fod yn gyfnod anodd i blant maeth, gyda llawer o draddodiadau a gweithgareddau rhyfedd a allai effeithio ar eu trefn arferol neu sbarduno rhai mathau o deimladau ac ymddygiad. Felly nid yw’n anarferol i ofalwyr maeth newydd neu ddarpar ofalwyr maeth fod â chwestiynau ar sut i drin y Nadolig.
Dyma Susanna, gofalwr maeth Blaenau-Gwent , sy’n gobeithio lleddfu rhai o’r pryderon gyda’i chyngor da ei hun ar sut i drin y Nadolig fel gofalwr maeth.
Peidiwch â disgwyl i’r Nadolig fod fel Nadolig arferol…
Tybed faint ohonom sydd wedi meddwl y bydd y Nadolig fel gofalwr maeth yn gyfnod hardd a hudolus, lle bydd ein holl blant wrth eu boddau gyda’r anrhegion a brynwyd yn gariadus iddynt a theimlo gwir deimlad o berthyn wrth iddynt brofi cynhesrwydd a thynerwch teulu cefnogol, gofalgar?
Rwy’n credu mai dyma sut y dychmygais Nadolig pan ddechreuodd fy ngŵr a finnau ar ein gyrfa faethu 10 mlynedd yn ôl fodd bynnag, ysywaeth mae’r gwir yn aml yn wahanol iawn.
Yn aml mae plant sy’n derbyn gofal yn cael yr amser hwn o’r flwyddyn yn anodd iawn. Gall hen draddodiadau teuluol gydag aelodau teulu agos yn ymgynnull dynnu sylw at nad oes ganddyn nhw eu hunain unrhyw brofiadau o’r fath. Efallai y bydd Nadoligau blaenorol a dreuliwyd gyda theuluoedd geni wedi bod yn anghyson neu’n drawmatig a gall canfod eu hunain mewn amgylchedd cadarnhaol a chariadus deimlo’n llethol yn emosiynol neu sbarduno atgofion poenus iddynt am Nadoligau’r gorffennol.
Siaradwch â’r plant ymlaen llaw
Mae cyfathrebu yn bwysig iawn o fewn ein teulu felly un o’r ffyrdd y ceisiwn ymdopi â’r Nadolig yw gael sgwrs agored ac onest pryd bynnag sy’n bosibl am ddisgwyliadau pob plentyn o sut ‘olwg’ fydd ar y Nadolig. Gall plentyn fod wedi dechrau teimlo’n ddiogel a saff o fewn y sefyllfa teulu bob dydd gyda ffiniau cyson ond cael eu llorio gan ymyriadau i’r drefn ‘arferol’ tebyg i nifer o aelodau teulu ymweld a rhannu pryd o fwyd gyda’i gilydd.
Mae rhoi cyfle i siarad drwy’r traddodiadau teuluol hyn cyn iddynt digwydd yn rhoi cyfle i blentyn sy’n derbyn gofal i gael eu traed oddi tanynt a pharatoi ar gyfer y newidiadau hyn i’r drefn arferol. Mae hefyd yn rhoi cyfle iddynt fynegi eu teimladau am sut yr hoffent ganfod eu ffordd drwy gyfnod yr ŵyl. Yn ein profiad ni, mae hyd yn oed plant ifanc iawn na fedrant fynegi eu hunain yn ddigonol wedi manteisio o gael eu paratoi ymlaen llaw am newidiadau bach i’r hyn a ddaeth eu ‘trefn ddiogel a chyson’.
Gwnewch eich traddodiad eich hun!
Agwedd arall o’r Nadolig y cefais i’n bersonol anhawster gyda hi yn y dechrau oedd gwybod fy mod wedi gwneud cymaint o ymdrech i brynu anrhegion personol ar gyfer ein holl blant (plant geni yn ogystal â phlant sy’n derbyn gofal) eto’n aml iawn, ni chafodd yr anrhegion arbennig a ddewisais eu derbyn gydag unrhyw fath o gyffro na llawenydd. Dros y blynyddoedd rwyf wedi dod i sylweddoli fod yn rhaid i’r pleser a gaf yn prynu’r anrhegion hyn fod yn ddigon i mi, gwybod fy mod wedi gwneud fy ngorau glas, sut bynnag dderbyninad a gaiff yr anrhegion.
Gan fod â theulu cyfunol o blant geni, llys-blant, plant a fabwysiadwyd a phlant sy’n derbyn gofal, rydym yn ceisio creu ac edrych ymlaen at ddiwrnod hamddenol ond arbennig lle mae’r plant yn deffro a phrofi pleser gwybod bod rhywun wedi meddwl amdanynt a’u gwerthfawrogi fel unigolion pan fyddant yn agor eu anrhegion. Bu’n rhaid i mi dderbyn nad oes unrhyw warant y bydd hyn yn digwydd, yn arbennig os yw eu teuluoedd geni wedi eu sbwylio gyda llu o anrhegion yn ystod sesiwn cyswllt ychydig o ddyddiau cyn y Nadolig! Gall y diwrnod mawr ei hun wedyn deimlo fel siom gan eu bod eisoes wedi cael eu dydd Nadolig.
I grynhoi, mae’n debyg mai fy nghyngor ar sut i ymdopi â’r Nadolig fel gofalwr maeth fyddai paratoi eich hun yn emosiynol ar gyfer y ffaith y gallai problemau annisgwyl godi ar unrhyw amser ar gyfer y plant yn ein gofal, i geisio peidio bod ag unrhyw ddisgwyliadau am sut y ‘bydd’ y Nadolig ond i gynllunio gwneud y gorau oll i greu atgofion cadarnhaol mewn rhyw ffordd ar gyfer pob plentyn sy’n rhan o’n teulu dros gyfnod yr ŵyl.
Nadolig llawen gan Susanna a Jason