blog

Llyfrau Saesneg ar gyfer Plant sy’n Derbyn Gofal

Llyfrau Saesneg ar gyfer Plant sy’n Derbyn Gofal – Diwrnod Llyfr y Byd

Mae’n ymddangos fod Diwrnod Llyfr y Byd yn tyfu’n fwy ac yn well bob blwyddyn gyda phlant yn dathlu llenyddiaeth drwy wisgo lan fel eu hoff gymeriadau a chymryd rhan mewn digwyddiadau ym mhob rhan o’r byd. Credwn fod llyfrau yn ffordd wych i ddatblygu dychymyg pobl ifanc wrth iddynt dyfu lan, a bydd llawer o blant yn medru cysylltu gyda’r cymeriadau y darllenant amdanynt.

Weithiau, gall plant sy’n derbyn gofal deimlo ychydig yn wahanol i blant eraill ac efallai na fyddant yn gweld eu hunain yn cael eu cynrychioli yn y llyfrau a ddarllenant. Dyma restr o lyfrau plant y credwn sy’n cynrychioli amrywiaeth mewn teuluoedd a diwylliannau.

Cyfres Tracy Beaker gan Jacqueline Wilson

Wedi’u hysgrifennu bron 30 mlynedd yn ôl, mae cyfres Tracy Beaker wedi goroesi a dod yn un o gyfresi plant mwyaf poblogaidd yr 20 mlynedd ddiwethaf, gyda chyfres deledu a hyd yn oed gêm fideo yn seiliedig ar y llyfrau. Er efallai nad yw Tracy yn ymddwyn fel y plentyn delfrydol, mae gan y gyfres galon a neges glir o gydymdeimlad ar gyfer plant a gaiff eu gosod mewn gofal. Argymhellir ar gyfer plant 9-11 oed.

And Tango Makes Three- Justin Richardson a Henry Cole

Yn seiliedig ar stori wir dau bengwin yn Sw Central Park, mae ‘And Tango Makes Three’ yn stori dwymgalon, yn annog mabwysiadu ar gyfer cyplau o’r un rhyw. Yn llyfr darluniau ar gyfer plant iau, byddai’r llyfr hwn yn fan dechrau gwych ar gyfer unrhyw rieni neu ofalwyr sy’n dymuno agor sgwrs gyda phlant am gyplau o’r un rhyw neu fabwysiadu. Argymhellir ar gyfer plant 3-6 oed.

Dennis and the Big Decisions- Paul Sambrooks

Mae’r llyfr lluniau bach clyfar hwn yn dilyn stori Dennis Duckling, hwyaden fach mewn gofal maeth. Y neges allweddol o’r llyfr yw fod teimladau Dennis fel plentyn mewn gofal yn bwysig a byddai’n wych ar gyfer plant ifanc nad ydynt efallai’n deall yn llawn beth yw ystyr bod mewn gofal maeth. Argymhellir ar gyfer plant 2-5 oed.

The Great Big Book of Families- Mary Hoffman

Mae’r llyfr hwn yn gwneud yn union yr hyn a ddywed y clawr. Mae’n dangos sut nad yw pob teulu yr un fath ac yn rhoi sylw i sbectrwm eang o wahaniaethau o dreftadaeth, i rywioldeb i sut mae pobl yn dewis treulio eu gwyliau. Argymhellir ar gyfer plant 4-8 oed.

Families, Families, Families- Max & Suzanne Lang

Yn debyg i The Great Big Book of Families, mae’r llyfr hwn yn dangos llawer o wahanol gyfuniadau o deuluoedd ac yn cynnwys lluniau hwyliog gwych am deuluoedd anifeiliaid y bydd plant iau wrth eu bodd gyda nhw. Argymhellir ar gyfer plant 3-7 oed.

This is How We Do It: One Day in The Lives of Seven Kids from Around the World- Matt Lamothe 

Mae’r llyfr hwn gyda lluniau hardd yn cymharu bywyd bob dydd plant o’r Eidal, Japan, Iran, Peru, Uganda a Rwsia. Mae’n dilyn y gwahaniaethau o sut mae pob un ohonynt yn chwarae, bwyta a threulio amser gyda’u teuluoedd. Argymhellir ar gyfer plant 4-6 oed.

Finding A Family for Tommy- Rebecca Daniel

Wedi’i ysgrifennu ar gyfer plant mewn gofal plant a phlant wedi eu mabwysiadu, mae ‘Finding a Family for Tommy’ yn dilyn bachgen bach sy’n chwilio am deulu newydd ym mhob math o leoedd yn cynnwys sw, pwll dŵr ac ar fferm. Mae’n rhoi canllawiau defnyddiol i oedolion sy’n darllen y stori i annog a sbarduno sgwrs gyda’r plant am faethu. Gallai hefyd fod yn llyfr defnyddiol i blant geni y mae eu rhieni’n ystyried maethu a chroesawu plentyn i’w cartref. Argymhellir ar gyfer plant 3-6 oed.

Story Time

Stories From Our Carers

Woman and young girl using computer to make video call

cysylltwch â ni heddiw

cysylltwch