stori

Jack, Colin a Mary

Mae’r partneriaid Jack a Colin, ynghyd â mam Jack, Mary, yn ofalwyr maeth sy’n byw ym Mlaenau Gwent.

y teulu maeth

Roedd maethu’n teimlo fel rhywbeth roedd Jack a’i fam Mary eisiau ei wneud erioed. 

“Rwy’n cofio, byddai hysbysebion yn y papur ar gyfer Pythefnos Gofal Maeth a bydden ni bob amser yn siarad am bwy gallen ni eu helpu.”

Maen nhw wedi bod yn maethu gyda’i gilydd ers wyth mlynedd bellach, ac ymunodd partner Jack, Colin, â’u teulu maeth dair blynedd yn ôl. Maen nhw’n gofalu am ddau fachgen: Sam sy’n 16 oed a Ben sy’n 10 oed.

“Oherwydd y bwlch oedran, rydyn ni wedi ceisio dysgu’r bechgyn mewn ffyrdd gwahanol. Rydyn ni eisiau iddyn nhw wybod nad oes rhaid iddyn nhw fod y gorau; dim ond bod yn rhaid iddyn nhw wneud eu gorau.”

“mae maethu yn ffordd o fyw”

I Mary, Jack a Colin, dim rhan o’u bywyd yw maethu – maethu yw eu holl fywyd. Maen nhw’n gwybod bod bod yn ofalwr maeth yn golygu gwneud ymrwymiad. Mae’n heriol, ond mae’n werth chweil hefyd. Maen nhw’n gwybod pa mor bwysig yw maethu, ac maen nhw’n gallu gweld y newidiadau cadarnhaol ym mywydau Sam a Ben. 

“rydyn ni’n eu helpu drwy roi’r holl bethau rydyn ni’n credu y mae plant yn haeddu eu cael, fel cartref, pobl sy’n eu caru a lle i deimlo’n ddiogel.”

“rydyn ni’n un tîm mawr”

Mae gwaith tîm yn bwysig. Dydy Jack, Colin a Mary dim ar eu pen eu hunain chwaith – maen nhw’n rhan o dîm lleol Maethu Cymru Blaenau Gwent. Rydyn ni bob amser ar gael, boed hynny ar gyfer cyngor, hyfforddiant neu fel rhywun i siarad â nhw.

“Mae ein gweithiwr cymdeithasol mor dda am wrando ac am roi amser i ni stopio a chymryd anadl ddofn cyn i ni fynd ymlaen eto.”

Rydyn ni wedi ymrwymo, yn union fel maen nhw – rydyn ni’n gwneud hyn gyda’n gilydd.

hoffech chi ddechrau eich stori faethu eich hun?

Os yw darllen stori Jack, Colin a Mary wedi eich ysbrydoli chi i gymryd y cam cyntaf tuag at faethu, rydyn ni’n edrych ymlaen at glywed gennych chi. Cysylltwch â ni heddiw, a gadewch i ni ddechrau arni.

hoffech chi ddysgu mwy?

Rhagor o wybodaeth am faethu a beth allai ei olygu i chi.

Mae ein llwyddiannau maethu yn seiliedig ar brofiadau bywyd go iawn Gofalwyr Maeth Awdurdodau Lleol yng Nghymru. Er mwyn diogelu eu preifatrwydd, a phreifatrwydd y plant a’r bobl ifanc y maent yn darparu gofal, cariad a chefnogaeth iddynt, mae’r holl enwau wedi’u newid ac mae actorion wedi camu i mewn i’n helpu i adrodd eu straeon anhygoel.

Story Time

Stories From Our Carers

Woman and young girl using computer to make video call

dod yn ofalwr maeth

cysylltwch