Dysgu a Datblygu yn Maethu Cymru, Blaenau Gwent
Mae gofalwyr maeth yn hanfodol i gadw plant sy’n derbyn gofal yn ddiogel a’u helpu i gyflawni eu potensial. Felly mae’n hanfodol sicrhau fod gan ofalwyr maeth fynediad i ddysgu a datblygu perthnasol.
Yn Maethu Cymru Blaenau Gwent anelwn gefnogi a grymuso ein gofalwyr maeth i gadw plant yn ddiogel a’u helpu i adeiladu’r dyfodol gorau posibl ar gyfer plant lleol. Rydym yn rhoi amser ac yn cynnig arbenigedd i helpu adeiladu ar y sylfeini hynny, i roi popeth i chi y byddwch ei angen.
Pa hyfforddiant fyddaf yn ei gael?
Mae dysgu a thwf yn rhan hanfodol o’r hyn a gynigiwn a byddwn yn parhau i’ch helpu chi a hefyd y plant yn eich gofal i ddatblygu.
Bydd ein tîm yn Maethu Cymru Blaenau Gwent yn rhoi cofnod ddysgu a chynllun datblygu personol i chi i’ch helpu i olrhain eich taith, cofnodi sgiliau gwerthfawr a throsglwyddadwy a dynodi anghenion hyfforddiant y dyfodol. Bydd hefyd yn rhoi gwybodaeth ragorol ar gyfer eich datblygiad personol eich hun.
Yr hyn y byddwch yn ei ddysgu
Byddwch yn dysgu sut ydym yn cydweithio, y fframwaith sy’n helpu i lywio’r hyn a wnawn, a sut i fod y gorau y gallwn fod. Gyda chyrsiau hyfforddiant a chymwysterau, ni fyddwch byth yn teimlo eich bod yn sefyll yn eich unfan.
Pryd y byddwch yn dysgu
Rydym yn hyblyg, ac mae hynny’n cynnwys ein fframwaith dysgu a datblygu. Bydd gennych fynediad i gyfleoedd dysgu amrywiol ar adeg sy’n gyfleus i chi. Nid ticio blwch yw hyn; mae’n ymwneud â thyfu bob dydd. Mae rhai sgiliau yn gyffredinol, mae eraill yn fwy addas i anghenion plentyn neilltuol neu chi’ch hunan. Byddwn yn rhoi pa bynnag hyfforddiant a chefnogaeth yr ydych ei angen, pryd bynnag rydych angen hynny.
Clywed gan ofalwyr maeth ar draws Gwent
‘Rwy’n teimlo’n rhan o dîm cyfan sy’n cydweithio’n dda. Mae gen i gysylltiadau da gyda’r teulu geni, gweithiwr cymdeithasol a’r ysgol a rydyn ni gyd yn canolbwyntio ar y person ifanc. Mae cyfathrebu da a pharch yn sylfaenol i hyn.’
‘Mae gennyf gysylltiad rhagorol gydag ysgol fy mhlentyn maeth a rydyn ni bob amser ar yr un dudalen ac mae’r gweithiwr cymdeithasol maethu yn rhagorol’.
‘Dydw i byth yn amharod i ffonio’r ysgol a rhannu problemau, does byth unrhyw feirniadu, dim ond cefnogaeth.’
‘Mae mynediad llawer gwell i wasanaethau nag oedd o’r blaen’
‘Fe gawson ni gysylltiad wythnosol gyda’r gweithiwr cymdeithasol yr holl ffordd drwy’r cyfnodau clo, roedd hyn yn llawer iawn o gefnogaeth i ni.
‘Mae ein gweithiwr cymdeithasol cefnogi yn rhagorol, cefnogaeth fawr i ni’
‘Roedd y dosbarthiadau meistr yn dda iawn, roeddwn yn eu mwynhau’n fawr. Roedd yn gymysgedd go iawn o wahanol siaradwyr a chynnwys i gadw eich diddordeb’
‘Fe wnes mwynhau’r dosbarthiadau meistr llesiant, diddorol tu hwnt’