blog

5 ffordd i arbed arian ar siopa nôl-i’r-ysgol

Mae’r argyfwng costau byw wedi ychwanegu at y pwysau arferol sydd ar rieni yr adeg hon o’r flwyddyn. Gyda’r esgid fach yn gwasgu mwy nag erioed, mae’n dda cael cwpl o driciau arbed arian i fyny eich llawes.

Rhowch gynnig ar ein hawgrymiadau i arbed arian ar eitemau ysgol eich plentyn, gan y gallech gael eich synnu faint mae’n helpu i gynllunio ymlaen llaw.

Paratoi rhestr siopa

Cyn dechrau siopa nôl-i’r-ysgol, mae’n werth gwneud rhestr o’r holl bethau hanfodol mae eich plant eu hangen. Yn y ffordd honno gallwch dicio eitemau bant fel a phan mae cynnig arbennig arnynt ac osgoi prynu yn fyrbwyll. Gall hefyd fod yn ddefnyddiol gweld pa eitemau sydd gan eich plant yn barod gan y gallwch ddod o hyd i eitemau y gellir eu hailddefnyddio.

A fedrwch brynu yn ail law?

Mae llawer o rieni yn teimlo dan bwysau i brynu eitemau newydd sbon, gyda 25% yn dweud mai eu plant sy’n rhoi’r pwysau hwnnw, a 34% yn dweud fod ganddynt ofn i’w plant gael eu bwlio neu fod rhywrai yn pigo arnynt.

Mae plant yn tyfu’n gyflym ac efallai na fydd llawer o’u heitemau ysgol yn ddefnyddiol iddynt bellach, er eu bod mewn cyflwr da. Yn lle eu taflu bant, mae’n syniad da rhoi eitemau i helpu rhieni eraill yn eich cymuned leol. Gall rhieni roi a chanfod eitemau ysgol ar blatfform fel OLIO, sy’n cysylltu cymdogion lleol fel y medrant gyfrannu pethau nad ydynt eu hangen.

Yn lle hynny, gallech edrych ar Facebook Marketplace yn eich ardal neu alw heibio siopau elusen lleol – wyddoch chi ddim beth y gallech ddod o hyd iddo.

Yn ogystal â bod yn fanteisiol i’ch waled, mae prynu ail law hefyd yn annog byw gwyrdd ac yn addysgu eich plant bod ailddefnyddio’n helpu’r blaned ac yn cyfyngu gwastraff diangen.

Edrych am fargeinion ar-lein.

Mae’n hysbys iawn y gall prynu ar-lein arbed arian i chi. Mae’n rhwyddach cymharu cynigion a chwilio am y prisiau gorau heb straen ychwanegol ciwio a rhuthro o amgylch y siopau. Gwnewch yn siŵr eich bod yn dilyn y rhestr siopa y gwnaethoch ei pharatoi ymlaen llaw. Yn y ffordd honno gallwch aros yn drefnus, arbed amser a dim ond prynu’r hyn rydych wirioneddol ei angen.

Ydych chi’n gymwys am gymorth ariannol?

Mae bob amser yn werth holi os gallech fod yn gymwys am unrhyw gymorth gan eich cyngor lleol tuag at gost gwisg ysgol neu offer addysg gorfforol. Mae mwy o wybodaeth ar gael yma.

Hefyd, wyddech chi y gall HMRC helpu gyda chostau gofal plant? Mae mwy o wybodaeth yma.

Prynu dyfeisiau wedi’u hadnewyddu

P’un ai ydych yn ystyried cael ffôn newydd i’ch plentyn neu eu bod eisiau gliniadur neu lechen, gallech efallai arbed swm sylweddol o arian drwy brynu model wedi’i adnewyddu. Yn ogystal â hynny, rydych hefyd yn gwneud dewis gwyrddach – mae pawb ar eu hennill. Cyn prynu, gwnewch yn siŵr fod gwarant dda ar yr eitemau. Mae’n werth edrych os gallwch brynu dyfais wedi ei hadnewyddu yn uniongyrchol gan y gwneuthurydd, gan fod cryn dipyn o’r enwau mawr yn cynnig y gwasanaeth yma. Yn lle hynny, gallech edrych ar eBay sy’n cynnig eitemau technoleg bron yn newydd.

Gobeithiai y bu’r erthygl yma’n ddefnyddiol i chi. Pob lwc gyda’ch paratoadau nôl-i’r-ysgol!

Story Time

Stories From Our Carers

Woman and young girl using computer to make video call

cysylltwch â ni heddiw

cysylltwch