mathau o faethu
Mae maethu yn gyfle gwych i wneud gwahaniaeth go iawn i fywyd rhywun. Boed hynny am brynhawn, penwythnos, blwyddyn neu fwy.
dysgwych mwyffyrdd o faethu
Y gwir yw, mae yna blant ym Mlaenau Gwent sydd wir angen rhywun yn eu bywyd i wrando arnyn nhw. I’w cefnogi ac i ofalu amdanyn nhw, dim ots beth.
Mae bron iawn unrhyw un yn gymwys i faethu – boed yn sengl, yn briod, yn rhentu ei gartref neu’n berchen arno. Does dim ffiniau rhag dod yn ofalwr maeth a bydd ein tîm yn gweithio i ddod o hyd i blentyn sy’n cyfateb yn berffaith i chi.
Rydyn ni’n mynd ati i ddathlu amrywiaeth ein gofalwyr maeth. Rydyn ni’n gwybod mai’r sgiliau, y cariad a’r profiad sydd gennych chi sydd bwysicaf, ac rydyn ni hefyd yn gwybod bod set sgiliau eang ac amrywiol yn gwneud gwahaniaeth enfawr i’n holl blant. Wedi’r cyfan, mae pob plentyn yn wahanol, ac mae’r rhieni maeth sydd eu hangen arnyn nhw’n wahanol hefyd.
Os ydych chi’n dal yn ansicr a yw maethu yn addas i chi, efallai y bydd yr adran mythau maethu yn eich helpu i benderfynu ai dyma’r peth iawn i’w wneud:
Mae maethu gyda ni yn gyfle i wneud gwahaniaeth i blant ym Mlaenau Gwent. Dim un math strwythuredig o ofal sydd dan sylw, mae’n amrywio o aros dros nos i leoliadau tymor hwy. Mae angen pob math o bobl er mwyn sicrhau’r hyblygrwydd hwn.
Mae arnon ni angen gofalwyr amrywiol sydd â chefndiroedd, profiadau a straeon gwahanol i helpu i greu dyfodol gwell i blant o bob oed.
Os oes gennych chi unrhyw amheuon neu gwestiynau wrth ofalu am blentyn mewn gofal, ni fydd eich canolfan arbenigol bwrpasol chi. Rydyn ni i gyd yn dod at ein gilydd, ynghyd â’ch ffrindiau, eich teulu a’ch cymuned ym Mlaenau Gwent, i sicrhau’r gorau i’r plant yn ein gofal.
Dyma rai o’r cwestiynau mwyaf cyffredin a ofynnir i ni pan fydd rhywun yn ystyried dod yn ofalwr maeth:
Os yw eich bywyd gwaith yn brysur, efallai y bydd angen ychydig o gefnogaeth ychwanegol arnoch gan eich teulu a’ch ffrindiau. Rydyn ni’n credu na ddylai gweithio eich rhwystro rhag maethu. Mae’n rhywbeth y gallai fod angen cynllunio mwy ar ei gyfer, fodd bynnag.
Rydyn ni’n cynnig amrywiaeth o fathau o ofal maeth, sy’n golygu y bydd rhai yn cyd-fynd yn well â’ch bywyd chi nag eraill. Mae rhai o’n gofalwyr maeth yn cynnig seibiant byr, ac eraill yn cynnig gofal tymor hwy. Rydyn ni’n gwybod faint o ymrwymiad yw maethu, ac rydyn ni’n mynd ati i weithio fel tîm.
Os byddwch yn dewis maethu gyda ni, byddwch yn gweithio gyda chymysgedd o weithwyr proffesiynol a fydd yn eich cefnogi ar bob cam o’r ffordd.
Yn bendant. Gallwch fod yn ofalwr maeth p’un ai ydych chi’n rhentu neu’n talu morgais – os ydych chi’n teimlo’n ddiogel lle rydych chi’n byw, yna gallai plentyn deimlo’r un fath. Byddwn yn gweithio allan beth sydd orau i chi, ble bynnag rydych chi’n ei alw’n gartref.
Gallwch, rydych chi’n dal yn gallu maethu os oes gennych chi eich plant eich hun. Yn wir, mae cael brodyr a chwiorydd maeth yn gallu bod yn werth chweil gan ei fod yn helpu plant i ddeall. Mae’n eu helpu i ffurfio cyfeillgarwch ac yn meithrin eu gallu i ofalu am eraill.
Does dim y fath beth â theulu maeth nodweddiadol, a does dim plentyn maeth nodweddiadol chwaith. Mae gofalu am blant maeth yn golygu ychwanegu at eich teulu a charu a gofalu am fwy o bobl.
Does dim terfyn oedran uchaf ar gyfer maethu; gallwch fod yn eich ugeiniau neu ymhell i’ch saithdegau. Beth bynnag fo’ch oedran, byddwch yn cael y gefnogaeth a’r hyfforddiant lleol arbenigol gan ein tîm i’ch paratoi i gychwyn ar eich taith faethu.
Er bod profiad bywyd yn fonws, dydy’ch oedran ddim yn bwysig i ni – mae croeso i chi ddod yn rhan o’r teulu maethu pan fyddwch chi’n oedolyn. Byddwn yn gwneud yn siŵr bod ein rhwydwaith cefnogi wrth law i’ch arwain chi – dim ots faint yw eich oed chi.
Na. O ran bod yn ofalwyr maeth rhagorol, does dim gofynion penodol ynghylch bod mewn perthynas neu beidio. Y plant a’r sefydlogrwydd y gallwch ei gynnig sydd bwysicaf – os yw eich cartref yn cynnig sefydlogrwydd, gallech faethu.
Gallwch. Dydy rhywedd ddim yn effeithio ar a fyddwch chi’n ofalwr maeth gwych neu beidio. Byddwn yn ystyried eich sgiliau, eich empathi a’ch personoliaeth ofalgar fel y nodweddion pwysicaf yn eich cais.
Wrth gwrs. Dydy cyfeiriadedd rhywiol ddim yn ystyriaeth o gwbl o ran maethu. Yr hyn sydd bwysicaf yw eich gallu i wrando, gofalu a chynnig lle diogel i blentyn sydd eich angen chi.
Dydy cael unrhyw fath o anifail anwes ddim yn eich atal rhag bod yn ofalwr maeth. Mae’n golygu y byddwn yn eu cynnwys yn eich asesiad i wneud yn siŵr y byddan nhw’n cyd-dynnu’n dda ag unrhyw blant rydych chi’n gofalu amdanyn nhw.
Rydyn ni’n gwybod bod anifeiliaid anwes yn gallu cynnig math cwbl wahanol o gefnogaeth a chariad sy’n gallu bod o fudd mawr i blentyn mewn gofal maeth.
Rhan bwysicaf eich taith faethu yw bod yn onest, felly os ydych chi’n ysmygu, rhowch wybod i’n tîm. Gallwn roi arweiniad ar sut i roi’r gorau iddi os ydych chi’n chwilio am help. Fel gyda phob un o’n parau maethu, mae’n ymwneud â dod o hyd i’r gyfatebiaeth iawn rhyngoch chi a’r plentyn mewn gofal.
P’un ai ydych chi’n ddi-waith neu’n cael gwaith afreolaidd, dydy hyn ddim yn effeithio ar eich siawns o fod yn ofalwr maeth. Cyn belled â’ch bod yn gallu cynnig cefnogaeth, arweiniad a chariad bob dydd, rydych chi’n gymwys i fod yn ofalwr maeth.
Dydy maint eich cartref ddim yn bwysig o gwbl – cyn belled â bod gennych chi ystafell sbâr lle gall plentyn deimlo’n gartrefol yn ei ystafell ei hun, byddwch yn dal i gael eich ystyried.