Mae’r cwpl Jenny a Kate yn ofalwyr maeth yma ym Mlaenau Gwent.
y teulu maeth
Mae Jenny a Kate wedi bod gyda’i gilydd ers saith mlynedd, ac wedi maethu ers pedair.
“Mae wedi bod yn bedair blynedd prysur iawn ond fydden ni ddim wedi ei eisiau mewn unrhyw ffordd arall.”
Teimlai Kate a Jenny eu bod wedi cael profiad gwerthfawr o’u swyddi fel swyddog tai a gweithiwr cymorth i blant ag anableddau a fyddai’n eu helpu ar y ffordd faethu o’u blaenau. Wedi dweud hynny, yr hyfforddiant a’r gefnogaeth gan eu Hawdurdod Lleol oedd wedi’u paratoi ar gyfer maethu mewn gwirionedd.
“Os ydych chi angen unrhyw help, maen nhw bob amser yno i’ch cefnogi chi neu i roi cyngor.”
“mae eu gweld yn hapus yn fy ngwneud i’n hapus”
Mae Kate a Jenny wedi maethu plant o bob oed – o blant bach i bobl ifanc yn eu harddegau, ac weithiau brodyr a chwiorydd gyda’i gilydd. Ar hyn o bryd, maen nhw’n gofalu am Lilly yn 16 oed a brawd a chwaer ifanc sy’n byw gyda’u mam-gu a’u tad-cu ond weithiau’n aros gyda Kate a Jenny ar benwythnosau.
“Rydyn ni wedi dod yn eithaf agos dros y blynyddoedd gyda’u mam-gu a’u tad-cu. Mae wedi dod fel un teulu estynedig mawr.”
“rydyn ni’n rhoi cyfle i’r plant hyn fod yn blant”
Gyda chymorth Tîm Maethu Cymru Blaenau Gwent a’n rhwydwaith lleol o gyd-ofalwyr maeth, mae Jenny a Kate yn gofalu am blant sydd â phob math o gefndiroedd ac anghenion unigol.
“Rydyn ni’n rhoi dechrau mewn bywyd iddyn nhw, gyda’r holl gariad sydd ei angen arnyn nhw.”
am ddechrau eich taith faethu eich hun?
Os yw darllen stori Jenny a Kate wedi gwneud i chi feddwl y gallai maethu fod yn iawn i chi hefyd, byddem wrth ein boddau o sgwrsio. Cysylltwch â ni a dechreuwch eich taith heddiw.
am ddysgu mwy?
Dysgwch fwy am faethu a beth y gallai ei olygu i chi. Mae ein straeon llwyddiant maethu yn seiliedig ar brofiadau go iawn Gofalwyr Maeth Awdurdodau Lleol yng Nghymru. Er mwyn diogelu eu preifatrwydd, a phreifatrwydd y plant a’r bobl ifanc y maen nhw’n rhoi gofal, cariad a chefnogaeth iddynt, mae’r holl enwau wedi’u newid ac mae actorion wedi camu i mewn i’n helpu i adrodd eu straeon anhygoel.