stori

Aaron a Matte: Fe syrthion ni mewn cariad â maethu.

Daeth Aaron a Matte yn ofalwyr maeth gyda Maethu Cymru Blaenau Gwent 8 mlynedd yn ôl. Dim ond 23 oed oedd Aaron a 25 oedd Matte pan benderfynon nhw faethu. Maen nhw wedi maethu 18 o blant hyd yma ac ar hyn o bryd maen nhw’n gofalu am dri o blant.

Buom yn siarad â nhw am eu profiadau maethu ac roedden ni eisiau gwybod mwy am pam y gwnaethon nhw benderfynu dod yn rhieni maeth a beth mae’n ei olygu iddyn nhw.

Pan gawson ni ein plentyn maeth cyntaf, fe syrthion ni mewn cariad â maethu.

Dechreuodd taith Aaron a Matte i fyd maethu pan gofrestrodd y cwpl i fod yn rhan o rwydwaith cymorth mam Aaron, sy’n ofalwr maeth ei hun.

Dywedodd Aaron, “Roedd yn gam naturiol i ni oherwydd ces i fy magu gyda mam a phlant maeth yn y tŷ. Yna pan ddaethon ni at ein gilydd, fe symudon ni allan o fewn 5 mis, a chawson ni ein lle ein hunain. Roedd yn beth eithaf naturiol i gefnogi fy mam, sef beth roeddwn i’n ei wneud beth bynnag pan roeddwn i’n byw gartref.”

Pan symudodd y cwpl i eiddo mwy, anogodd mam Aaron nhw hefyd i ddod yn deulu maeth. Yn 2016, croesawon nhw eu plentyn maeth cyntaf, a oedd yn 9 oed bryd hynny, ac yn y pen draw daethon nhw’n warcheidwaid arbennig iddi.

Dywedodd Matte, “Roedd pobl yn gofyn i ni pam na fydden ni’n mabwysiadu, a’n hymateb ar y pryd oedd bod ein perthynas yn dal yn gymharol newydd, ac roedden ni’n ifanc iawn yn dechrau arni. Pan gawson ni ein plentyn maeth cyntaf, fe syrthion ni mewn cariad â hi, ac fe syrthion ni mewn cariad â maethu. Roedden ni’n teimlo mai dyma ein pwrpas ni mewn bywyd.”

Rhaid i ofalwyr maeth allu addasu.

Nod ymgyrch 2024 Maethu Cymru, “Gall Pawb Gynnig Rhywbeth,” yw dangos bod gan y rhan fwyaf o bobl y rhinweddau angenrheidiol i ddod yn ofalwyr maeth. Mae sgiliau a nodweddion a fyddai’n gwneud rhywun yn ofalwr maeth gwych yn cynnwys amynedd, cydymdeimlad, a’r gallu i addasu, ymhlith llawer o bethau eraill.

Cytunodd Aaron a Matte fod gofal maeth yn gofyn am y gallu i addasu i newidiadau ym mywyd beunyddiol rhywun. Efallai y bydd angen gwneud addasiadau cyflym i’ch arferion ar gyfer lleoliadau byrdymor neu frys, a rhaid i ofalwyr maeth fod yn barod i wneud hynny. Yn enwedig yn y camau cynnar pan fydd plentyn yn cyrraedd, mae angen i rieni maeth fod yn barod i aberthu digwyddiadau neu gynlluniau penodol i ganiatáu ar gyfer cyfnod o addasu a helpu’r plentyn i ymgartrefu mewn amgylchedd newydd.

“Rwy’n credu y gall unrhyw un faethu os oes ganddyn nhw’r feddylfryd gywir. Mae’n rhaid i chi fod yn barod i gyfaddawdu.”

Mae manteision maethu yn gwneud y cyfan yn werth chweil.

Pan ofynnwyd iddo am effaith maethu dywedodd Matte, “Mae maethu wedi dysgu llawer i ni. Fe wnaeth ni’n fwy ymwybodol o beth mae cymaint o blant yn mynd drwyddo. Roedd Aaron wedi gweld mwy o hyn fel plentyn, ond fe wnes i fyw bywyd eithaf cysgodol yn tyfu i fyny. Fy mywyd i oedd ‘enfysau a phili-palas’, felly gwnaeth maethu agor fy meddwl i’r ochr arall. Fe wnaeth fi’n berson cryfach, a hefyd fy nysgu i dderbyn fy emosiynau ac fy mod i’n gallu crio a pheidio â theimlo cywilydd.”

Ar ôl maethu am 5 mlynedd, teimlodd Matte gymhelliant i ddilyn ei radd mewn Seicoleg gyda Dadansoddi Ymddygiad i ddysgu mwy am yr ymennydd dynol a deall plant hyd yn oed yn well. Ar hyn o bryd mae’n gweithio fel gweithiwr cymorth tadau i’r Awdurdod Lleol ac mae’n teimlo bod maethu wedi gwneud i bopeth yn ei fywyd wneud synnwyr.

“Gwnaeth maethu fy helpu i lywio fy nyfodol a’m gyrfa yn ogystal â gosod y llwybr ar gyfer fy mywyd. Un ar ddeg mlynedd yn ôl, roeddwn i’n teithio’r byd heb wybod beth i’w wneud mewn bywyd. Rwy’n teimlo bod pwrpas i’m bywyd heddiw.”

Rheswm arall y mae maethu yn rhoi boddhad i Aaron a Matte yw eu bod nhw’n gweld newidiadau cadarnhaol yn y plant sy’n gadael eu cartref a sut mae maethu’n effeithio ar bobl ifanc. Mae’r cwpl mewn cysylltiad ag 80% o’r plant maen nhw wedi’u maethu o hyd.

“Mae un plentyn roedden ni’n ei faethu, mae hi nawr yn y brifysgol, yn anfon cardiau Sul y Tadau ac anrhegion aton ni bob blwyddyn; mae’n neis iawn. Mae hi bob amser yn dod yn ôl o’r brifysgol i’n gweld ni, ac er mai dim ond am gyfnod byr y gwnaethon ni ei maethu hi, dywedodd hi wrthym ein bod ni wedi cael effaith enfawr ar ei bywyd hi.”

Ychwanegodd Matte, “Yn ddiweddar gwelsom fachgen yn dre’ a arhosodd gyda ni am bythefnos. Mae bellach yn oedolyn. Pan wnaeth ein hadnabod ni, dywedodd na chafodd erioed gyfle i ddweud ‘diolch’ a pha mor gyfforddus roedd e wedi teimlo yn ein cartref ni. Mae hyn yn anhygoel o werth chweil, i wybod ein bod ni wedi gallu helpu’r bobl ifanc yma.”

Yr her fwyaf yw eu gweld nhw’n mynd.

Dywedodd Matte mai’r hyn sy’n wych am fod yn ofalwr maeth yw eich bod chi’n dysgu ac yn addasu’n barhaus. Mae pob plentyn yn wahanol ac yn dod â phrofiadau newydd a diddorol (heriol weithiau). Mae’n gwneud i chi dyfu a datblygu sgiliau bob dydd bron, ac rydych chi hefyd yn synnu eich hun ac yn dysgu pethau newydd amdanoch chi’ch hun. Gall fod yn anodd ar brydiau, ac nid yw popeth bob amser yn mynd yn ôl y disgwyl, ond dywedodd Matte ei fod yn hoffi heriau ac yn mwynhau dod o hyd i atebion i broblemau.

Pan ofynnwyd iddyn nhw am heriau mwyaf maethu, roedd y cwpl yn cytuno mai’r rhan anoddaf yw gadael i’r plant fynd. Pan fyddwch chi wedi gofalu am blant am gyfnod sylweddol o amser, mae’n naturiol datblygu bond cryf a theimlo’n agos atyn nhw.

“Yr her fwyaf yw eu gweld nhw’n mynd, mae’n gyfnod hapus, pan rydyn ni’n eu gweld nhw’n hapus, ond ar yr un pryd mae’n drist ac rydyn ni’n gwybod y byddwn ni’n eu colli,” meddai Matte.

Ychwanegodd Aaron, “Bob tro mae plentyn yn gadael maen nhw’n mynd â darn ohonon ni gyda nhw.”

Gwneud i bobl ifanc deimlo eu bod yn cael eu deall a’u gwerthfawrogi.

Mae’r cwpl yn agored i faethu plant o unrhyw oedran. Pan ofynnwyd iddyn nhw am faethu pobl ifanc yn eu harddegau sy’n ystrydebol ‘heriol’, gwnaethon nhw ymateb drwy ddweud eu bod nhw wedi caru pob person ifanc sydd wedi dod i’w cartref.

“Nhw yw’r rhai hawsaf, a bod yn onest! Mae angen rhywfaint o strwythur a threfn arnyn nhw. Rydyn ni’n eu trin nhw’n deg iawn, ac rydyn ni’n glir iawn ynghylch rheolau ein cartref a beth rydyn ni’n ei ddisgwyl, sef parch o’r naill ochr, cadw at rai arferion ac ati. Ond y prif beth yw mwynhau a chael hwyl, a hyd yn hyn mae wedi gweithio i ni!”

I rai pobl ifanc sy’n mynd trwy’r ansicrwydd o fod yn eu harddegau, neu a allai fod braidd yn ddigyfeiriad, gall y cwpl fod yn esiampl o’r gallu i fyw bywydau hapus er gwaethaf pob disgwyl.

“Rydyn ni’n brawf byw y gallwch chi fod yn rhan o’r gymuned LHDTC+ a byw fel unrhyw berson arall a gwneud beth mae unrhyw berson arall yn ei wneud.”

Gwnaeth eu meddwl agored a’u hoedran ifanc eu helpu i uniaethu â phobl ifanc fel brodyr hŷn yn hytrach na rhieni. Nid yw pobl ifanc yn eu harddegau yn hoffi cael rheolau a chyfyngiadau llym wedi’u gosod arnyn nhw, felly mae delio â nhw fel cyfoedion yn gwneud iddyn nhw deimlo eu bod nhw’n cael eu deall a’u gwerthfawrogi.

“Dyma ein bywyd ni.”

Mae profiadau maethu yn hynod bersonol ac unigryw i bob unigolyn. Mae gan bob gofalwr maeth stori wahanol i’w hadrodd, ac mae pob dull maethu’n cael ei siapio gan brofiadau a gwerthoedd personol. I Aaron a Matte, mae gan faethu le arbennig yn eu calonnau wrth iddyn nhw gofleidio’r heriau a’r llawenydd o roi gofal a chymorth i blant sydd ei angen.

“Mae’n gwneud i chi godi’n y bore, gwneud yr holl waith papur, paratoi prydau bwyd, mynd i gyfarfodydd, mae’n swydd 24 awr, ond fydden ni byth yn ei alw’n ‘swydd’. Dyma ein bywyd ni. Mae’r plant yma’n byw bywydau normal gyda ni. Rydyn ni’n mynd ar wyliau gyda’n gilydd, a dydyn ni ddim yn cael ‘gwyliau blynyddol’ er bod gennym ni hawl i seibiant. Ond fe wnaethon ni ddewis hyn, ac rydyn ni’n trin y plant hyn fel ein rhai ni. Mae’n deulu, felly pan rydyn ni’n mynd ar wyliau maen nhw’n dod gyda ni, ac rydyn ni i gyd yn cael hwyl.”

Maen nhw’n creu amgylchedd teuluol meithringar, cynnes a diogel lle mae pob plentyn yn teimlo ei fod yn cael ei gefnogi a’i garu. Maen nhw’n eirioli dros y plant ac yn gefn iddyn nhw bob amser, a hefyd yn sicrhau bod yr holl blant yn cael eu cynnwys mewn digwyddiadau teuluol.

“Roedd y plentyn ieuengaf gawson ni yn mynd i gael ei fabwysiadu ym mis Awst ac roedden ni’n mynd i Disneyland ym mis Medi. Cafodd y broses fabwysiadu ei gohirio tan fis Ionawr, felly roedden ni’n rhedeg o gwmpas yn ceisio cael lle iddi ar y fferi ac yn trefnu ei holl waith papur a’i dogfennau. Daeth hi gyda ni yn y pen draw, a fyddai’r gwyliau heb fod yr un peth hebddi. Dim ond 5 oed oedd hi ac roedd popeth yn ei chyffroi gymaint, roedd popeth yn hudolus iddi. Gwnaeth y daith hyd yn oed yn well i ni! Rydyn ni wrth ein bodd yn teithio gyda’r plant, gan eu bod nhw mor gyffrous ac mae gweld eu hapusrwydd nhw yn ein gwneud ni’n hapus.”

Rydyn ni’n teimlo ein bod ni’n cael ein gwerthfawrogi a’n parchu.

Mae gan y cwpl rwydwaith cymorth mawr o’u cwmpas, gyda ffrindiau’n dod fel ‘modrybedd’ ac ‘ewythrod’ i’w plant maeth. Mae’r cysylltiadau hyn yn aml yn para hyd yn oed ar ôl i’r plant adael eu cartref.

Fe wnaethon nhw ganmol y gymuned faethu ym Mlaenau Gwent a dweud, er bod pandemig Covid-19 wedi effeithio ar gyfarfodydd wyneb-yn-wyneb, eu bod nhw wedi dod o hyd i gefnogaeth drwy grwpiau sgwrsio a fforymau ar-lein, a oedd yn rhoi cyngor ymarferol ac yn gwneud iddyn nhw deimlo’n llai ynysig.

“Rydyn ni wedi bod yn ffodus iawn i dderbyn cefnogaeth wych. Mae ein gweithiwr cyswllt yn anhygoel; mae hi bob amser ar gael pan mae angen i ni siarad â hi, ac mae ganddi wir ddiddordeb yn ein lles, gan gynnig cefnogaeth bob amser. Rydyn ni hefyd yn ffodus nad oes llawer o newidiadau wedi bod yn y tîm, felly mae ’na barhad.”

Ychwanegodd Aaron, “Yn ystod y blynyddoedd diwethaf rydyn ni hefyd yn gweld bod gan lawer o weithwyr cymdeithasol ddiddordeb gwirioneddol yn ein barn ni, sut rydyn ni’n gweld pethau ac maen nhw’n ein trin ni fel cyfoedion, fel gweithwyr proffesiynol sy’n gwybod yr un faint, os nad mwy, am blant na nhw. Mae hyn yn gwneud i ni deimlo ein bod yn cael ein gwerthfawrogi a’n parchu.”

Profiad maethu sydd wedi aros gyda ni.

Thema Pythefnos Gofal Maeth eleni oedd “Profiadau Maethu.” Gofynnais i Aaron a Matte a oedden nhw’n gallu cofio rhywbeth penodol o’u taith faethu sydd wedi cael effaith barhaol.

“Fe roddodd ein merch faeth ni i ffwrdd ar ddiwrnod ein priodas – dyma’r foment fwyaf arbennig i ni.

Cymeron ni warcheidiaeth ohoni ar ôl pedair blynedd o’i chael hi. Fe wnaethon ni gyhoeddi iddi adeg y Nadolig y byddai hi’n aros gyda ni yn barhaol ac yn cymryd ein cyfenw ni. Fe briodon ni ym mis Chwefror ychydig cyn y cyfnod clo a dwi’n meddwl mai dyma ein cyflawniad mwyaf – ei bod hi wedi gallu bod yno gyda ni ar ein diwrnod arbennig.”

Yn eu priodas, siaradodd Aaron o’r galon am eu cariad at faethu ac addawodd y bydden nhw’n parhau i faethu cyhyd ag y gallen nhw. Mae eu brwdfrydedd a’u llawenydd o fod yn rhieni maeth yn disgleirio’n llachar trwy gydol ein sgwrs.

Gwnewch yr alwad ffôn gyntaf ’na neu trefnwch yr ymweliad cyntaf â’ch cartref.

Os ydych chi’n ystyried maethu, cysylltwch â thîm maethu eich awdurdod lleol, Maethu Cymru. Gall y tîm siarad â chi am faethu ac ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych chi. Nid oes unrhyw rwymedigaeth i wneud cais, ond gallwch chi ddod i wybod a yw maethu yn gweddu i’ch ffordd o fyw a’ch amgylchiadau.

Dywedodd y cwpl,

“Ewch amdani! Gwnewch yr alwad ffôn gyntaf ’na neu trefnwch yr ymweliad cyntaf â’ch cartref. Does gennych chi ddim byd i’w golli drwy gysylltu â’r awdurdod lleol a chael rhagor o wybodaeth.”

Ystyried dod yn ofalwr maeth fel Aaron a Matte?

Os ydych chi’n byw yng Nghymru, ewch i wefan Maethu Cymru lle gallwch chi ddod o hyd i’r holl wybodaeth a chysylltu â gwasanaeth eich awdurdod lleol.

Byw ym Mlaenau Gwent, Cymru? Anfonwch neges atom neu ffoniwch ni ar 01495 369620 a byddwn ni’n cysylltu â chi cyn gynted ag y gallwn ni.

Story Time

Stories From Our Carers

Woman and young girl using computer to make video call

dod yn ofalwr maeth

cysylltwch