datganiad hygyrchedd

Mae’r datganiad hygyrchedd yn berthnasol i https://fwblaenaugwent.wpenginepowered.com/.

Cynhelir y wefan gan Maethu Cymru Blaenau Gwent. Rydym am i gymaint o bobl â phosibl ddefnyddio’r wefan. Er enghraifft fe dylech allu:

  • Newid lliw, lefelau cyferbynnedd a ffont
  • Chwyddo’r testun 150% heb i’r testun ddiflannu oddi ar y sgrin
  • Llywio’r rhan fwyaf o’r wefan gyda bysellfwrdd yn unig
  • Llywio’r rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio meddalwedd adnabod llais
  • Gwrando ar y rhan fwyaf o’r wefan gyda chyfleuster darllen sgrin (yn cynnwys y fersiynau mwyaf diweddar o JAWS, NVDA a VoiceOver)

Rydym hefyd wedi gwneud yn siŵr bod testun y wefan mor hawdd â phosibl i’w ddeall.  Mae gan AbilityNet gyngor ar wneud eich dyfais yn haws i’w defnyddio os oes gennych anabledd.

Pa mor hygyrch ydi’r wefan hon

Gwyddwn nad ydi rhannau o’r wefan yn gwbl hygyrch:

  • Mae’n rhaid galluogi Javascript er mwyn i rai elfennau gweledol weithio’n iawn
  • Nid yw fidoes sydd wedi’u mewnblannu wedi’u sgrindeitlo
  • Nid yw botymau a dolenni sy’n cysylltu testun bob amser yn unigryw
  • Efallai y bydd rhai elfennau ffocws yn anweladwy
  • Efallai y bydd cyd-destun/cefndir a amlygir â bysellfwrdd heb gyferbyniad lliw digonol
  • Efallai na fydd digon o gyferbyniad rhwng y testun a ddewisir dan amodau arddangos penodol
  • Gan ddibynnu ar gynnwys y dudalen, efallai na fydd rhai lefelau penawdau mewn trefn semantig
  • Wrth chwyddo testun, fe all orgyffwrdd â’r cynnwys gerllaw
  • Mae problemau cyferbynnedd/darllenadwyaeth gyda’r prif logo

Adborth a manylion cyswllt

Os hoffech dderbyn gwybodaeth sydd ar y wefan hon mewn fformat arall, megis PDF hygyrch, print mawr, hawdd ei ddeall, recordiad llais neu braille:

  • Anfonwch Ebost I: fostering@blaenau-gwent.gov.uk
  • Ffoniwch: 01495 357792 or 01495 356037
  • Ysgrifennwch at: Maethu Cymru Blaenau Gwent, Family Resource Centre, Beaufort Road, Ebbw Vale, NP23 5LH

Byddwn yn ystyried eich cais ac yn cysylltu â chi cyn pen 28 diwrnod.

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd ar y wefan hon

Rydym bob amser yn chwilio am ffyrdd o wella hygyrchedd ar y wefan hon. Os dewch o hyd i broblemau sydd heb eu rhestru ar y dudalen hon, neu os nad ydych chi’n credu’n bod ni’n cwrdd â’r gofynion hygyrchedd, cysylltwch â ni:

  • Anfonwch Ebost I: fostering@blaenau-gwent.gov.uk
  • Ffoniwch: 01495 357792 or 01495 356037
  • Ysgrifennwch at: Maethu Cymru Blaenau Gwent, Family Resource Centre, Beaufort Road, Ebbw Vale, NP23 5LH

Y Weithdrefn Gorfodi

Mae’r Comisiynydd Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau ar gyfer Dyfeisiadau Symudol) (Rhif. 2) 2018 (y rheoliadau hygyrchedd’.) Os nad ydych chi’n hapus â’n hymateb i’ch cwyn, cysylltwch â’r Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb (EASS).

Cysylltu â ni dros y ffôn neu ymweld â ni wyneb yn wyneb

Rydym ni’n cynnig gwasanaeth cyfnewid testun ar gyfer pobl sydd yn fyddar, trwm eu clyw neu â nam ar eu lleferydd.

Mae dolenni sain yn ein swyddfeydd neu, os wnewch chi gysylltu â ni cyn eich ymweliad, gallwn drefnu dehonglwr BSL ar eich cyfer.

I gael gwybod mwy am sut i gysylltu â ni ewch i: https://fwblaenaugwent.wpenginepowered.com/cy/cysylltu-a-ni/.

Gwybodaeth dechnegol ynglŷn â hygyrchedd y wefan hon

Mae Maethu Cymru Blaenau Gwent wedi ymrwymo i wneud y wefan hon mor hygyrch â phosibl, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau ar gyfer Dyfeisiadau Symudol) (Rhif. 2) 2018.

Statws Cydymffurfiaeth

Mae’r wefan hon yn cydymffurfio’n rhannol â safon AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwefannau fersiwn 2.1, oherwydd y diffyg cydymffurfio ac eithriadau a restrir isod.

Cynnwys anhygyrch

Mae’r cynnwys a restrir isod yn anhygyrch oherwydd y rhesymau canlynol.

Diffyg cydymffurfiaeth â’r rheoliadau hygyrchedd

Mae rhai elfennau gweledol penodol yn golygu galluogi Javascript er mwyn iddynt weithio’n iawn:

  • Prif gwymplenni llywio
  • Delweddau a gaiff eu ‘llwytho’n ddiog’  â Javascript er mwyn gwella perfformiad
  • Llywio dyfeisiadau sgrin fach
  • Llywio ‘Cwestiynau cyffredin’ ar ddyfeisiadau sgrin fach

Caiff ein fideos eu cynnal gan YouTube, ac er bod gan y platfform hwn lefelau hygyrchedd uchel, ar hyn o bryd nid oes sgrindeitlau wedi’u mewnblannu yn y ffeiliau hyn. Rydyn yn gobeithio diweddaru’r rhain yn y dyfodol.

Nid yw testun pob botwm a dolen sy’n cysylltu cyd-destun yn unigryw ac maent yn cynnwys testun generig.

Mae rhai elfennau ffocysu, megis cyfleusterau rheoli hygyrchedd, yn weladwy drwy fotwm. Er eu bod yn hygyrch drwy fysellfwrdd, mae’n bosib y bydd rhai elfennau ffocysu yn anweladwy.

Mae’n bosib y bydd lliw sydd yn dynodi ffocws gan ddefnyddio bysellfwrdd heb gyferbyniad digonol, gan ddibynnu ar liw’r cyd-destun/cefndir, ac nid yw hyn yn bodloni gwiriadau hygyrchedd safon AA o safbwynt cyferbynnedd.  Mae hyn yn amlwg iawn ar gefndiroedd tywyll.

Wrth ddewis testun, efallai y bydd heb gyferbyniad digonol, gan ddibynnu ar liw’r cyd-destun/testun ac nid yw hyn yn bodloni gwiriadau hygyrchedd safon AA o safbwynt cyferbynnedd.  Mae hyn yn amlwg iawn ar gefndiroedd tywyll.

Efallai na fydd penawdau lefel is mewn trefn semantig, gan ddibynnu ar gynnwys/cyd-destun y dudalen. Ar gyfer ymwelwyr sydd yn defnyddio technolegau cynorthwyol, fe all hyn greu problemau wrth lywio’r cynnwys.

Pan gaiff tesun ei wneud yn fwy, mae’n bosib y bydd yn gorgyffwrdd â chynnwys/chyd-destun y dudalen.

Mae rhywfaint o broblemau cyferbynnu/darllenadwyaeths â’r prif logo oherwydd ei liw a’i faint.

Baich anghymesur

Llywio a chyrchu gwybodaeth

Nid yw’r bosibl i ddefnyddwyr newid maint y testun fwy na 150% heb i’r cynnwys orgyffwrdd rhywfaint. Yn y rhan fwyaf o achosion, gellir chwyddo testun 250% heb broblem, er, gan ddibynnu ar faint y sgrin, y gall hyn achosi problemau posib gyda’r prif lywiwr.

Rydym wedi asesu’r gost o gwirio’r problemau llywio a chyrchu gwybodaeth. Credwn y byddai hynny’n faich anghymesur yng nghyd-destun y rheoliadau hygyrchedd. Fe gynhaliwn asesiad pellach wrth adolygu a gwella’r safle yn y dyfodol.

Cynnwys nad yw yng nghwmpas y rheoliadau hygyrchedd

Gwasanaethau mapio trydydd parti

Rydym yn defnyddio Google Maps fel darparwr gwasanaeth mapio trydydd parti. Ar hyn o bryd mae’r gwasanaeth hwn wedi’i eithrio o’r rheoliadau hygyrchedd.

Paratoi’r datganiad hygyrchedd hwn

Paratowyd y datganiad hwn ar 7 Gorffennaf 2021. Fe’i hadolygwyd ddiwethaf ar 15 Gorffennaf. Profwyd y wefan ddiwethaf ar 15 Gorffennaf 2021. Cynhaliwyd y prawf gan Illustrate Digital.

Fe ddefnyddiom y dull hwn wrth benderfynu pa dudalennau i’w profi:

  • Fe wnaethom adnabod y prif ryngwynebau defnyddiwr a phrofi’r tudalennau canlynol:
    • Yr hafan
    • Tudalen cynnwys mewnol
    • Archif math post wedi’i deilwra
    • Tudalen math post wedi’i deilwra
  • Fe ddefnyddion y dulliau ac offer profi canlynol:
    • Sawl estyniad porwr gwe i brofi hygyrchedd, yn cynnwys AXE a WAVE
    • Profi llywio â bysellfwrdd
    • Adolygu còd llaw datblygwr(wyr) y wefan