cwestiwn cyffredin

fydda i’n cael fy nhalu fel gofalwr maeth?

fydda i’n cael fy nhalu fel gofalwr maeth?

Efallai nad lwfansau yw’r peth cyntaf y byddwch chi’n eu hystyried gyda maethu. Ond maen nhw’n rhan o sut rydyn ni’n gwneud yn siŵr eich bod chi’n gallu cynnig y gefnogaeth orau bosibl fel gofalwr maeth. Gallwch ddarllen mwy am lwfansau maeth yn ein Y Canllaw Gorau i Dâl Gofalwyr Maeth.

lwfansau

Byddwch yn cael lwfans ar gyfer pob plentyn maeth yn eich gofal, a byddwch yn cael lwfans fel rhiant maeth hefyd. Mae’n ymwneud â gofalu am bethau bob dydd, yn ogystal â helpu i greu mwy o atgofion arbennig. 

cefnogaeth arall

Mae manteision eraill, ar wahân i gymorth ariannol, a fydd yn cyfoethogi eich profiad maethu. Rydyn ni’n edrych ar y darlun llawn: cefnogaeth emosiynol, cyfleoedd dysgu ac arweiniad arbenigol hefyd.

Dim ein hamser a’n harbenigedd yn unig rydyn ni’n eu cynnig. Fel mudiad dielw, mae ein holl arian yn mynd tuag at gefnogi’r plant yn ein gofal a gwneud y profiad maethu y gorau y gall fod. Mae hynny’n golygu cefnogaeth cylch cyfan. Rydyn ni yma i chi, ym mha bynnag ffordd rydych chi ein hangen ni.

Tarwch olwg ar gefnogaeth a manteision eich Awdurdod Lleol i weld beth yn union y gallai maethu gyda Maethu Cymru ei olygu i chi.

Woman and young girl using computer to make video call

cysylltwch â ni heddiw

cysylltwch