blog

Syniadau Rhwydd am Fwyd Parti Calan Gaeaf

Os ydych awydd cynnal parti Calan Gaeaf eleni, yna byddwch wrth eich bodd gyda’r syniadau rhwydd am fwydydd gyda naws bwci bo. Gyda danteithion sawrus a melys, bydd y rysetiau Calan Gaeaf rhwydd yma yn sicrhau parti da.

Pizza Bwci Bo

Mae ysbrydion mozzarella, ystlumod salami a chorynnau olewydd da ar y rysait pizza cartref rhwydd hwn. Cynyddwch y meintiau os oes gennych dyrfa fawr i’w bwydo.

Mae’r rysait ar gael yma: Haunted Pizza Recipe | Halloween Meal | Tesco Real Food

Diodydd

Beth am baratoi pwnsh gwaed Dracula neu bwnsh ffrwythau llygaid i dorri syched eich ysbrydion a’ch bwci bw bach. Y Calan Gaeaf hwn gwnewch eich diodydd yn fwy dramatig byth drwy rewi maneg o ddŵr a’i defnyddio fel iâ ar gyfer eich bowlen bwnsh. Peidiwch anghofio rhoi grawnwin ac olewydd ar eich diodydd i wneud llygaid ar ffyn coctel.

Mae’r rysait ar gael yma: Halloween punch recipe | BBC Good Food

Teisennau Bach

Os mai’ch syniad chi o uffern Calan Gaeaf yw treulio oriau yn chwysu yn y gegin, peidiwch ag ofni. Beth am drawsnewid teisennau bach heb eisin a brynwyd mewn siop yn gynnig bwganllyd sydd yr un mor hudolus â rhai a wnaed gartref. Gadewch i’ch bwganod bach fynd yn wyllt gyda’u dychymyg a rhai peniau eisin ar gyfer gweithgaredd parti hwyliog. Crewch bob math o wynebau yn defnyddio pen eisin a llygaid ffondant.

Teisennau ystlumod

Byddwch yn greadigol yn y gegin a gwneud y danteithion ystlum hyfryd hyn ar gyfer Calan Gaeaf. Dim ond tri cynhwysyn sydd eu hangen, maent yn rhwydd ac yn hwyl i’w gwneud gyda chyrff o deisennau mini roll siocled ac adenydd eisin. I wneud y danteithion bwganllyd hyn, y cyfan sydd ei angen yw eisin rholio’n ôl , mini-rolls siocled dwbl a sglodion siocled gwyn.

Mae’r rysait ar gael yma: 3-ingredient bat out of hell cake pops | Tesco Real Food

Nadredd Crwst

Beth am weini’r nadredd crwst hyn mewn parti Calan Caeaf neu fel snac bwci bo ar gyfer plant. Maent yn rhwydd iawn eu gwneud ac yn ffefrynnau mewn parti. Gallwch wneud eich blasau’n ddiddorol drwy roi amrywiaeth o hadau ar y nadredd.

Mae’r rysait ar gael yma:  Pastry snakes recipe | BBC Good Food

Story Time

Stories From Our Carers

Woman and young girl using computer to make video call

cysylltwch â ni heddiw

cysylltwch