blog

Syniadau am Giniawau Gwych ar gyfer Nôl i’r Ysgol

Gyda’r haf bron drosodd, ni all ond olygu un peth – mae’r ysgol yn ôl ac mae mynd nôl i’r ysgol eleni yn wahanol i bob blwyddyn  arall. Gallai eich plentyn fod mewn swigen neu gydag amserlen ar yn ail a gellid effeithiau ar giniawau ysgol llawer, felly mae’n bwysig eich bod yn pacio ciniawau neu snaciau i gadw eich plentyn yn fodlon rhwng egwyl.

Ar ôl dweud hynny, gall fod yn her meddwl am syniadau sy’n ysbrydoli ac mae’n rhwydd disgyn i fagl defnyddio opsiynau pecyn parod. Er y gallent ymddangos yn ateb rhwydd, maent yn tueddu i fod yn uchel mewn braster dirlawn, halen a siwgr. Felly dyma 6 syniad rhwydd ar gyfer blwch cinio iach i wneud y diwrnod ysgol yn un cynhyrchiol.

6 syniad rhwydd am flwch cinio iach

Mae plant yn gwybod beth sy’n iach, ond efallai nad ydynt yn ei hoffi bob amser. Ni fyddwch yn ennill pob brwydr, ond gallai’r syniadau hyn helpu i gadw eu diet yn fwy iach.

Cynnwys ffrwythau a llysiau, mae hyn fel arfer yn un hawdd i blant ymdopi ag ef. Ar gyfer cinio dylid cynnwys o leiaf un dogn ffrwyth ac un o lysiau neu salad. Dogn yw faint y gall plentyn ei roi yng nghledr eu llaw, hyd yn oed os yw’n ddim ond tafelli ciwcymbr, ffyn moron neu gorn melys mewn brechdan, mae’r cyfan yn cyfrif.

Cynnwys cynnyrch llaeth neu fwyd arall cyfoethog mewn calsiwm, gan fod plant yn magu esgyrn, ac mae angen calsiwm i wneud hynny. Cynhwyswch ddogn amser cinio bob dydd. Mae llaeth, caws, iogwrt neu fromage frais, yn ogystal â llysiau deiliog gwyrdd a physgod tun fel eog a sardins yn ffynonellau da. Mae iogwrt plaen gyda llus wedi rhewi neu dopin granola yn boblogaidd.

Cynnwys protein. Mae protein yn bwysig i helpu eich plentyn i dyfu, yn ogystal â’u cadw yn llawn am hirach a dylid ei gynnwys yn ogystal â chynnyrch llaeth bob dydd. Mae dewisiadau da yn cynnwys cyw iâr a chig difraster arall, pysgod seimllyd, wyau yn ogystal â ffa a chorbys tebyg i ffa gwyrdd, ffacbys a gwygbys ar gyfer llysieuwyr.

Cynnwys carbohydrad startsiog. Mae’r rhain yn bwysig ar gyfer egni, maent yn helpu i gadw’r plentyn yn teimlo’n llawn drwy’r dydd a dylent ffurfio traean o’u blwch cinio. Ceisiwch newid o fara gwyn i fara a phasta cyflawn.

Cynnwys eich plentyn wrth gynllunio a pharatoi eu blwch cinio – mae plant yn fwy tebygol o roi cynnig ar fwydydd y maent wedi eu dewis a’u gwneud. Gwnewch hwn yn weithgaredd diddorol a hwyliog, fel y byddant eisiau cymryd rhan.

Gwneud bwyd yn hwyl. Cyflwynwch brydau ar siâp wyneb a cheisio cynnwys llawer o wahanol liwiau a blasau yn y pryd.

Adult and young girl baking together in kitchen

Story Time

Stories From Our Carers

Woman and young girl using computer to make video call

cysylltwch â ni heddiw

cysylltwch