blog

Canllaw syml i ofalu amdanoch chi eich hun ac eraill

Mae gofalu amdanoch chi eich hun ac eraill mor bwysig. Ond nid yw’n bwnc yr ydym yn ei drafod fel arfer gyda’n ffrindiau a’n teuluoedd. Er bod gofalu am ein hiechyd corfforol yn rhan bwysig o’n diwylliant, rydym yn dueddol o esgeuluso ein hiechyd meddyliol a deallusol yn y broses.

Mae ein hymennydd a sut yr ydym yn dysgu gofalu amdano yn unigryw i bob un ohonom. Mae rhai pobl yn gweld bod myfyrio neu ioga yn helpu. Gwêl rhai eraill bod posau a gemau yn helpu i finiogi ein gallu deallusol.

Yr hyn sydd bwysicaf yw ein bod yn gwneud rhyw ymdrech i feithrin ein hiechyd deallusol a bod â’r amynedd i gyflawni’r broses.

Felly rydym wedi rhoi canllaw syml at ei gilydd yn trafod gofalu amdanoch eich hun ac eraill.

1. Gofalu amdanoch eich hun

Hunanofal yw’r cynhwysyn pwysicaf i sicrhau eich bod yn gofalu amdanoch eich hun. Mae mor hawdd gadael i waith neu straen bywyd wneud i chi deimlo wedi blino’n llwyr, gan ei gwneud hi’n anos bod yna i ffrindiau a theulu. Felly mae’n bwysicach nag erioed i chi sicrhau eich bod yn rhoi amser i orffwys, cael seibiant, neu gymryd diwrnod o wyliau i chi eich hun yn awr ac yn y man.

Am fwy o gyngor: A Guide to Practicing Self-Care with Mindfulness – Mindful

2. Bwyta’n iach

Mae maethiad yn chwarae rhan bwysig wrth ofalu amdanom ein hunain, ac mae deall sut y mae bwyd yn ein cynnal yn gallu cael effaith wych ar y ffordd yr ydym yn teimlo bob dydd.

Os ydych yn cael trafferth penderfynu beth sydd arnoch ei angen, fe allech roi cynnig ar ap dyddiadur bwyd i olrhain beth yr ydych wedi bod yn ei fwyta a beth all fod yn ddiffygiol MyFitnessPal | MyFitnessPal.com. Mae paratoi prydau hefyd yn ffordd wych o gadw rheolaeth ar eich bwyta a gall fod yn weithgaredd sy’n eich ymlacio ar brynhawn Sul.

3. Gweithgaredd corfforol

Gall ymddangos yn amlwg ond mae cadw’n brysur yn un o’r pethau pwysicaf y gallwch ei wneud i deimlo’n fwy egnïol, yn llawn cymhelliant a gofalu amdanoch eich hun yn gorfforol a meddyliol. Mae ymarfer corff hefyd yn rhoi hwb i gynhyrchu serotonin, a elwir hefyd yn hormon ‘hapus’.

Ond, gall ymrwymo i wneud ymarfer corff weithiau achosi straen ddiangen, felly mae’n bwysig dod o hyd i rywbeth yr ydych yn ei fwynhau na fydd yn ormod i chi ond yn hytrach yn eich helpu i ofalu amdanoch eich hun.

Am fwy o gyngor: How to Find the Right Exercise for You – Lifestyle Inspirations by Nancy

4.Hunanofal Emosiynol

Mae’n bwysig cael sgiliau ymdopi iach i ymdrin ag emosiynau anghyfforddus, fel dicter, pryder a thristwch. Gall hunanofal emosiynol gynnwys gweithgareddau sy’n eich helpu i gydnabod a mynegi eich teimladau’n gyson.

Boed chi’n siarad â phartner neu ffrind agos am y ffordd yr ydych yn teimlo, neu yn cymryd rhan mewn gweithgareddau hamdden sy’n helpu i brosesu eich emosiynau, mae’n bwysig ymgorffori hunanofal emosiynol yn eich bywyd.

Am fwy o gyngor: Strategies for Emotional Self-Care (iowaaeamentalhealth.org)

5. Hunanofal meddyliol

Mae’r ffordd yr ydych yn meddwl a’r pethau yr ydych yn llenwi eich meddwl â nhw yn cael dylanwad mawr ar eich lles seicolegol.

Mae hunanofal meddyliol yn cynnwys gwneud pethau sy’n cadw eich meddwl yn effro, fel posau, neu ddysgu am bwnc sydd o ddiddordeb i chi. Gallech weld bod darllen llyfr neu wylio ffilm sy’n eich ysbrydoli yn cynnal eich meddwl.

Mae hunanofal meddyliol hefyd yn cynnwys gwneud pethau sy’n eich helpu i gadw’n iach yn feddyliol. Mae bod yn hunan dosturiol a derbyn eich hunan, er enghraifft, yn eich helpu i gynnal deialog fewnol iachach.

Story Time

Stories From Our Carers

Woman and young girl using computer to make video call

cysylltwch â ni heddiw

cysylltwch