Beth yw Pythefnos Gofal Maeth© 2022?
Pythefnos Gofal Maeth© 2022 – Amser i ddathlu’r gymuned faethu!
Pythefnos Gofal Maeth© 2022 yw’r ymgyrch fwyaf i godi ymwybyddiaeth o ofal maeth yn y Deyrnas Unedig, a gaiff ei chyflwyno gan elusen faethu flaenllaw The Fostering Network. Thema eleni yw Cymunedau Maethu (#FosteringCommunities) i ddathlu nerth a chydnerthedd cymunedau maethu a’r cyfan a wnânt i sicrhau fod plant yn derbyn gofal a chefnogaeth i ffynnu.
Mae’n gobeithio rhoi sylw i’r llu o ffyrdd y mae pobl yn y gymuned faethu wedi cefnogi ei gilydd yn ystod pandemig Covid-19 – ac i amlygu’r angen am fwy o ofalwyr maeth ymroddedig.
P’un ai ydych wedi buddsoddi yn y broses faethu eisoes, newydd ddechrau ar eich taith neu â diddordeb mewn maethu, mae Pythefnos Gofal Maeth© 2022 yr union beth i chi ymchwilio mwy ar y gymuned hon a manteisio i’r eithaf arni.
Pam fod Pythefnos Gofal Maeth mor bwysig?
Eleni, yn fwy nag erioed, rydym angen Pythefnos Gofal Maeth©. O bandemig i ryfeloedd mewn gwahanol rannau o’r byd, mae plant yn cael eu gwahanu oddi wrth eu teuluoedd geni ac mwy o angen teuluoedd maeth nag erioed o’r blaen. Felly yn ystod Pythefnos Gofal Maeth© 2022 rydym eisiau rhoi sylw i waith anhygoel ein gofalwyr maeth a dangos i chi sut y gallech wneud gwahaniaeth i fywydau plant lleol ym Mlaenau Gwent drwy ystyried maethu.
Sut y gallaf gymryd rhan?
Mae llawer o ffyrdd y gallwch gymryd rhan yn y Pythefnos Gofal Maeth©. Yn gyntaf, os ydych yn ystyried dod yn ofalwr maeth yna gallwch gysylltu â ni heddiw. Nid oes unrhyw gwestiwn yn rhy wirion, dim ymholiad yn rhy fawr i’n tîm ymroddedig. Yn ail, gallwch rannu eich profiadau ar y cyfryngau cymdeithasol am eich cymuned faethu a dweud eich stori faethu; po fwyaf y codwn ymwybyddiaeth, y mwyaf o blant y gallwn ganfod cartrefi maeth saff a diogel iddynt. Peidiwch anghofio tagio tudalen Facebook Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent!
Gallwch hefyd ymweld â gwefan swyddogol The Fostering Network i ganfod yn union beth maent yn ei wneud ac i gael mwy o wybodaeth ar y gymuned faethu wych. O sêr y byd adloniant i Aelodau Seneddol, bydd cynifer o bobl yn cymryd rhan yn y Pythefnos Gofal Maeth© felly gwnewch yn siŵr eich bod yn chwarae eich rhan yn yr ymgyrch newid bywyd yma.